Ôl-Brexit a'r cynlluniau i adael yr Undeb Ewropeaidd

Neidio i: llywio, chwilio

Yn dilyn Refferendwm y Deyrnas Unedig ar aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd ar 23 Mehefin 2016 cafwyd adladd gwleidyddol, digwyddiadau a thrafodaethau eu cynnal ynghylch gadael yr Undeb Ewropeaidd, neu 'Brexit'. Yn grynno: roedd y canlyniad i adael yr UE yn annisgwyl, ymddiswyddodd Prif Weinidog y DU, David Cameron, etholwyd Prif Weinidog a oedd dros aros yn yr UE, Theresa May yn Brif Weinidog i weithredu'r hollti oddi wrth Ewrop, gwelwyd fod gwahaniaeth mawr yn y pleidleisiau yn yr Alban (a Gogledd Iwerddon) a gweddill y DU a chwympodd gwerth y bunt o'i gymharu â'r Ewro a'r Ddoler.

Y Deyrnas Unedig

Canlyniad y bleidlais oedd cwerylon a lled-argyfyngau gwleidyddol ac economaidd. Cyhoeddodd Nigel Farage, arweinydd UKIP, ei ymddiswyddiad ar 4 Gorffennaf 2016, gan ddweud ei fod wedi llwyddo i gyrraedd ei nod. Roedd sawl rheswm dros yr anghydfod, gan gynnwys: amserlen y gwahanu, termau'r gwahanu ac a fyddai'n rhaid cychwyn ar y broses a nodir o fewn Erthygl 50 o Gytundeb Lisbon ai peidio. Mynnai rhai gwleidyddion, gan gynnwys y Ceidwadwr Jacob Rees-Mogg a chyn-arweinydd y Democratiaid Ryddfrydol, Nick Clegg, fod angen galw etholiad cyffredinol cyn gwneud dim arall.

Yng Ngorffennaf 2016 cyhoeddwyd fod David Cameron wedi gwrthod caniatâu i'r Gwasanaeth Sifil i gynllunio ar gyfer y posibilrwydd o Brecsit; mynegodd Pwyllgor Materion Tramor y Llywodraeth fod y penderfyniad hwn gan Cameron yn "weithred o esgeulustod".[1]

Aeth y Prif Weinidog newydd, Theresa May ati ar unwaith i benodi "Uned Brexit" o weision sifil i edrych ar y gwahanol bosibiliadau ac yna cynghori'r Prif Weinidog a'i Chabined.[2] Cyn hir, penodwyd David Davis (AS dros Haltemprice and Howden) fel "Ysgrifennydd dros Brexit" (Secretary of State for Exiting the European Union).

Mewn cyhoeddiad ar 17 Ionawr 2017 (100 diwrnod wedi'r Refferendwm) dywedodd Theresa May mai "Brexit caled" oedd ei hunig opsiwn, mewn gwirionedd, h.y. y bydd gwledydd Prydain yn gadael y farchnad sengl wrth adael yr Undeb Ewropeaidd. Dywedodd y bydd yn dechrau'r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd cyn mis Mawrth 2017 ac y cymer tua dwy flynedd. Cadarnhaodd hefyd y bydd Tŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi yn cael pleidleisio ar y cytundeb terfynol rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd.[3]

Cymru

Pleidleisiodd 854,572 (52.5%) o drigolion Cymru o blaid gadael yr UE, o'i gymharu â 772,347 (47.5%) a oedd am aros. Er gwaethaf galwad y Blaid Lafur, pleidleisiodd nifer o ardaloedd traddodiadol Llafur fel Caerffili, Merthyr Tudful, Blaenau Gwent, Casnewydd ac Abertawe dros anwybyddu'r alwad honno, gan droi eu cefn ar Ewrop. Allan o 22 awdurdod lleol, 5 yn unig a bleidleisiodd dros aros o fewn Ewrop: Gwynedd, Ceredigion, Bro Morgannwg, Sir Fynwy a Chaerdydd.

Awgrymodd Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymrufod canlyniad y Refferendwm yn "newid popeth" a bod yr amser wedi dod i drafodaeth gynhwysfawr am Annibyniaeth i Gymru. Nododd Leanne Wood hefyd fod hyn yn newid meddyliau pobl ac y bydd sialensau enfawr yn wynebu economi Cymru a materion cyfansoddiadol.[4] Ar 5 Gorffennaf dangosodd pôl piniwn gan YouGov (a gomisiynwyd gan ITV Wales) y byddai 35% yn pleidleisio dros fod yn Annibynol, pe cai Gymru aros o fewn yr UE.[5]

Mewn pôl pinion gwahanol, eto gan YouGov ar gyfer ITV Wales, nododd 53% y byddent yn pleidleisio dros aros yn rhan o Ewrop, pe cynhelid etholiad arall.[6] Yn ôl yr Athro Roger Scully o Brifysgol Caerdydd, "mae'r twf o 6% ers y Refferendwm yn dangos fod y teimlad o aros yn rhan o Ewrop ar gynnydd."

Gogledd Iwerddon

Argymhelliad Sinn Féin oedd y dylid cynnal Refferendwm ar uno Gogledd Iwerddon gyda Gweriniaeth Iwerddon; Sinn Féin yw plaid weriniaethol fwyaf Gogledd Iwerddon, gyda chynrychiolaeth yn y Dáil Éireann yn ogystal â Cynulliad Gogledd Iwerddon.[7] Galwodd Dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon, Martin McGuinness (Sinn Féin), am refferendwm gan fod y mwyafrif o bobl Gogledd iwerddon wedi pleidleisio o blaid aros yn yr UE.[8] Dywedodd Ian Paisley Jr. o'r DUP MLA nad oedd mo'i angen, ond y dylai dinasyddion y Gogledd wneud cais am basports Gweriniaeth Iwerddon.[9]

Lloegr

Cabinet y Deyrnas Unedig yw'r corff sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau, creu polisi a threfnu Adrannau gwahanol y Llywodraeth; caiff y Cabined ei gadeirio gan y Prif Weinidog.[10] yn dilyn cyhoeddi canlyniad y refferendwm yn Chwefror, roedd 23 allan o'r 30 aelod o'r Cabined yn cefnogi aros yn yr UE.[11] Ymddiswyddodd Iain Duncan Smith, ar 19 Mawrth a daeth Stephen Crabb, a oedd dros Brexit, yn ei le.[11][12] Roedd Crabb eisioes yn aelod o'r Cabined, fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a daeth Alun Cairns (ag yntau o blaid Brexit) yn ei le. Roedd cyfanswm yr aelodau a oedd o blaid Brexit, felly yn 25.

Ar 24 Mehefin cyhoeddodd David Cameron y byddai'n ymddiswyddo fel Prif Weinidog, gan ei fod wedi cefnogi aros o fewn Ewrop, a'r bleidlais wedi mynd yn ei erbyn. Er bod llawer yn credu mai un o arweinyddion yr ymgyrch Vote leve, Boris Johnson, fyddai un o'r ffefrynnau yn y ras am fod yn Brif Weinidog, penderfynodd Boris, funud olaf, i beidio a rhoi ei enw ymlaen, ac ar 13 Gorffennaf, lai na thair wythnos wedi'r bleidlais, daeth Theresa May yn Brif Weinidog.

Roedd yr adladd cynddrwg yn y Blaid Lafur, gyda llawer o Aelodau Seneddol yn gweld bai ar eu harweinydd Jeremy Corbyn am beidio ag arwain dros aros yn yr UE yn ddigon cryf.[13] Un o'r rhai mwyaf uchel eu cloch oedd Hilary Benn (Gweinidog Tramor yr Wrthblaid) a arweiniodd coup (neu wrthryfel) yn erbyn eu harweinydd. Ar 26 Mehefin, dangosodd Corbyn y drws iddo, ac ymddiswyddodd nifer o AS o'u swyddi o fewn y blaid, mewn protest.[14][15] Fel canlyniad, cynhaliwyd pleidlais o ddiffyg ffydd (gan yr AS Llafur) yn Jeremy Corbyn ar 28 Mehefin 2016. Roedd 80% (172) yn erbyn Corbyn.[16] Ymateb Corbyn oedd fod aelodau cyffredin y Blaid Lafur yn llawer pwysicach iddo na mân gweryla ASau, ac nad oedd unrhyw sylwedd cyfansoddiadol i'w pleidlais.[17] Er nad oedd yn rhaid iddo wneud hynny, ymddiswyddodd, a chynhaliwyd etholiad oddi fewn y Blaid Lafur i ethol arweinydd. Safodd a bu'n llwyddiannus, a thawelodd y storm yn ei erbyn.


Cyfeiriadau

  1. Wintour, Patrick (20 July 2016). "Cameron accused of 'gross negligence' over Brexit contingency plans". The Guardian. https://www.theguardian.com/politics/2016/jul/20/david-cameron-accused-gross-negligence-brexit-contingency-plans. Adalwyd 21 Gorffennaf 2016.
  2. Quote from the PM's spokesperson Proctor, Kate (27 Mehefin 2016). "Cameron sets up Brexit unit". Yorkshire Post (Gorllewin Efrog, DU). http://www.yorkshirepost.co.uk/news/politics/cameron-sets-up-brexit-unit-1-7984750.
  3. Gwefan Golwg 360; adalwyd 17 Ionawr 2017.
  4. Morris, Steven (27 Mehefin 2016). "It's time to put Welsh independence on agenda – Leanne Wood". The Guardian. https://www.theguardian.com/politics/2016/jun/27/its-time-to-put-welsh-independence-on-agenda-leanne-wood. Adalwyd 8 Mehefin 2016.
  5. Shipton, Martin (5 July 2016). "A third of voters would back independence for Wales – if the country could stay in the EU as the rest of the UK left". Western Mail. http://www.walesonline.co.uk/news/politics/third-voters-would-back-independence-11567766. Adalwyd 8 July 2016.
  6. [http://www.walesonline.co.uk/news/politics/wales-would-vote-53-47-11566937 WalesOnline; adalwyd 29 Rhagfyr 2016. Teitl: Research undertaken by YouGov for ITV Wales and Cardiff University shows that, excluding don’t knows, Wales would vote 53% to 47% for Remain.
  7. Young, David (24 June 2016). "Sinn Fein is demanding a poll on a United Ireland after Brexit". Daily Mirror. http://www.mirror.co.uk/news/world-news/sinn-fein-demands-poll-united-8271274.
  8. "EU referendum result: Sinn Fein's Martin McGuinness calls for border poll on united Ireland after Brexit". The Independent. 24 Mehefin 2016.
  9. Matt Payton (25 Mehefin 2016). "Ian Paisley Jr urges Northern Irish citizens to apply for Republic of Ireland passports". Independent. http://www.independent.co.uk/news/uk/politics/unionist-ian-paisley-jr-mp-constituents-apply-republic-of-ireland-eire-passports-a7102761.html. Adalwyd 5 Gorffennaf 2016.
  10. "How Cabinet works". The National Archives. http://www.nationalarchives.gov.uk/cabinetpapers/cabinet-gov/. Adalwyd 22 Mawrth 2016.
  11. 11.0 11.1 "EU Referendum: Where Conservative MPs stand". BBC News. 21 Mawrth 2016. http://www.bbc.co.uk/news/uk-politics-eu-referendum-35616946. Adalwyd 22 Mawrth 2016.
  12. "Who is Stephen Crabb?". BBC News. http://www.bbc.com/news/uk-politics-35851269. Adalwyd 22 March 2016.
  13. "Labour 'Out' Votes Heap Pressure on Corbyn". http://news.sky.com/story/1716177/labour-out-votes-heap-pressure-on-corbyn.
  14. Asthana A, and Syal, R. (26 Mehefin 2016). "Labour in crisis: Tom Watson criticises Hilary Benn sacking". The Guardian. http://www.msn.com/en-gb/news/uknews/labour-in-crisis-tom-watson-criticises-hilary-benn-sacking/ar-AAhDKv3?li=BBoPWjQ&ocid=SL5MDHP. Adalwyd 26 Mehefin 2016.
  15. "Jeremy Corbyn's new-look shadow cabinet". The Daily Telegraph (London, UK). 27 Mehefin 2016. http://www.telegraph.co.uk/news/2016/06/28/labour-crisis-vote-jeremy-corbyn-leadership-david-cameron-brexit/.
  16. "Jeremy Corbyn Loses Vote of No Confidence". Sky News. 28 June 2016. http://www.msn.com/en-gb/news/uknews/jeremy-corbyn-loses-vote-of-no-confidence/ar-AAhJ3KO?li=BBoPWjQ&ocid=SL5MDHP.
  17. Holden, Michael; Piper, Elizabeth (28 Mehefin 2016). "EU leaders tell Britain to exit swiftly, market rout halts". Reuters. http://www.reuters.com/article/us-britain-eu-wrapup-idUSKCN0ZE11Y. "the confidence vote does not automatically trigger a leadership election and Corbyn, who says he enjoys strong grassroots support, refused to quit. 'I was democratically elected leader of our party for a new kind of politics by 60 percent of Labour members and supporters, and I will not betray them by resigning,' he said."
The article is a derivative under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License. A link to the original article can be found here and attribution parties here. By using this site, you agree to the Terms of Use. Gpedia Ⓡ is a registered trademark of the Cyberajah Pty Ltd.