Ail Gyngor y Fatican

Neidio i: llywio, chwilio
Y Pab Pawl VI yn ystod Ail Gyngor y Fatican.

Cyngor eglwysig gan yr Eglwys Gatholig Rufeinig oedd Ail Gyngor y Fatican (Lladin: Concilium Oecumenicum Vaticanum Secundum) a geisiodd ymdrin â pherthynas yr Eglwys gyda'r byd modern.[1][2] Hwn oedd cyngor cyntaf ar hugain yr Eglwys Gatholig a'r ail i'w gynnal ym Masilica Sant Pedr yn Ninas y Fatican ar ôl Cyngor Cyntaf y Fatican (1869–70). Agorodd y cyngor, drwy Esgobaeth y Pab, dan y Pab Ioan XXIII ar 11 Hydref 1962 a daeth i ben dan y Pab Pawl VI ar Ŵyl yr Ymddwyn Difrycheulyd ar 8 Rhagfyr 1965.

O ganlyniad i'r cyngor bu nifer o newidiadau yn athrawiaeth ac arferion yr Eglwys, gan gynnwys adnewyddu cysyniad y bywyd cysegredig, ymdrechion eciwmenaidd, a'r galwad cyffredinol i sancteiddrwyd.[3] Un o brif negeseuon y cyngor oedd Rhyfeddod y Pasg a'i bwysigrwydd i fywyd Cristnogion a'r flwyddyn Gristnogol.[4] Newidiodd y mwyafrif o eglwysi i'r iaith frodorol yn hytrach na Lladin yn yr Offeren, a gwelwyd llai o dlysau gan y wisg glerigol. Adolygwyd gweddïau'r cymun a'r calendr litwrgïaidd, a rhoddwyd yr hawl i weinyddwr yr Offeren wynebu'r gynulleidfa neu ochr ddwyreiniol yr eglwys. Cyflwynwyd nifer o newidiadau modern yng ngherddoriaeth y litwrgi a chelfyddyd Gatholig. Mae nifer o'r newidiadau hyn yn ddadleuol gan Gatholigion hyd heddiw.

Ymhlith y rhai a gyfranodd at sesiwn agoriadol y cyngor roedd pedwar dyn a ddaeth yn bab: y Cardinal Giovanni Battista Montini, sef Pawl VI; yr Esgob Albino Luciani, sef Ioan Pawl I; yr Esgob Karol Wojtyła, sef Ioan Pawl II; a'r ymgynghorwr diwinyddol Joseph Ratzinger, sef Bened XVI.

Cyfeiriadau

The article is a derivative under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License. A link to the original article can be found here and attribution parties here. By using this site, you agree to the Terms of Use. Gpedia Ⓡ is a registered trademark of the Cyberajah Pty Ltd.