Asghar Farhadi

Neidio i: llywio, chwilio
Asghar Farhadi
Asghar Farhadi Cannes 2013.jpg
Farhadi, Gŵyl Ffilm Cannes, 2013
Ganwyd (1972-05-07) 7 Mai 1972 (45 oed)
Khomeyni Shahr/Homayoon Shahr, Iran
Yn enwog am Ennillydd Oscar a'r Golden Globe
Galwedigaeth Cyfarwyddwr Ffilm, Sgriptiwr, Cynhyrchydd

Mae Asghar Farhadi (ganwyd 7 Mai 1972) yn un o brif gyfarwyddwyr ffilm y byd, un o gyfarwyddwyr prin i ennill Oscar dwywaith gan ennill yn 2012 a 2017 am ffilm orau mewn iaith dramor [1][2]

Fe'i enwyd yn rhestr 2012 cylchgrawn Time yn 'un o bobl mwyaf ddylanwadol y byd'.

Bywyd a gyrfa

Ganwyd yn Homayoon Shahr, talaith Isfahan, Iran (yn dilyn Chwyldro Islamaidd Iran newidwyd enw'r dref a oedd yn meddwl 'Tref hynod' i Khomeyni Shahr – 'Tref Khomeyni' ar ôl yr Ayatollah Khomeini).

Astudiodd theatr yn y brifysgol yn Tehran ble dechreuodd gwneud ffilmiau ei hun ar gamera 8mm ac 16mm cyn mynd ymlaen i ysgrifennu sgriptiau ffilm a theledu a chynhyrchu rhaglenni teledu.

Yn 2003 cynhyrchodd ei ffilm gyntaf Dancing in the Dust, wedyn The Beautiful City (2004) a Fireworks Wednesday (2006). Yn 2009 daeth i sylw'r byd gyda About Elly a enillodd nifer fawr o wobrau rhyngwladol yn cynnwys cyfarwyddwr gorau yng Ngŵyl Ffilmiau Berlin.

Daeth Farhadi yn enwog yn y gorllewin am ei ffilm ganlynol A Separation (2011). Enillodd y brif wobr yng Ngŵyl Ffilmiau Berlin ac Oscar am Best Foreign Language Film – y ffilm cyntaf o'r ddwyrain canol i ennill Gwobr Academi Hollywood. Bu torfeydd llawen yn aros i'w groesawu pan ddychwelodd i faes awyr Tehran ond blociodd lywodraeth Iran groeso swyddogol idddo.[3]

Yn 2017 enillodd Oscar unwaith eto am ei ffilm The Salesman ond benderfynodd beidio â mynychu'r seremoni wobrwyo mewn protest yn erbyn gwaharddiad llywodraeth Donald Trump i atal ymwelwyr o sawl gwald Fwslemiaid.[4]

Themâu

Mae ffilmiau Farhadi yn ymdrin â themâu elfennol bywyd a chymhlethdodau a dilemâu’r byd modern sydd yn codi rhwng dosbarthiadau cymdeithasol a pherthynas dynion a merched.

Fel llawer o gyfarwyddwyr ffilm gyfoes y wlad mae Farhadi yn adlewyrch tensiwn Iran heddiw. Y tyndra rhwng agweddau modern a thraddodiadau Islamaidd ffwndamentalaidd, rhyddid yr unigolion a chyfyngiadau cymdeithas, rôl merched a chyfrifoldeb teuluol, cyfoeth a dosbarth. Er Enghraifft mae About Elly yn dilyn criw o bobl ifanc dosbarth canol o Tehran yn mynd ar wyliau lan môr a'r problemau sydd yn codi wedi iddynt ddweud bod bachgen hyderus a merch swil yn bâr briod er mwyn cael aros yn y tŷ hâf (mae cyfraith Iran yn atal merched rhag nifer o weithgaredd heb fod yn nghwmni gŵr, tad neu frawd). Mae The Separation yn dilyn cwpl sydd yn mynd trwy ysgariad, eu gwrthdaro, dryswch ac ansicrwydd.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

The article is a derivative under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License. A link to the original article can be found here and attribution parties here. By using this site, you agree to the Terms of Use. Gpedia Ⓡ is a registered trademark of the Cyberajah Pty Ltd.