Cañon City, Colorado

Neidio i: llywio, chwilio
Cañon City, Colorado
Home Rule Municipality
Downtown Cañon City (2010)
Downtown Cañon City (2010)
Llysenw: "Climate Capital of Colorado, Cañon"
neu: "Corrections Capital of the World"
Arwyddair: "Gateway to the Authentic West"
Lleoliad o fewn Swydd Fremont a Colorado
Lleoliad o fewn Swydd Fremont a Colorado
Cyfesurynnau: 38°26′31″N 105°13′15″W / 38.441889°N 105.220891°W / 38.441889; -105.220891Cyfesurynnau: 38°26′31″N 105°13′15″W / 38.441889°N 105.220891°W / 38.441889; -105.220891[1]
Gwlad Yr Unol Daleithiau
Talaith Colorado
Colorado Swydd Fremont, Colorado[2]
Sefydlwyd 1860
corfforaeth ddinesig 3 Ebrill 1872[3]
Llywodraeth
 • Math Home Rule Municipality[2]
 • Maer Preston Troutman
Arwynebedd
 • Cyfanswm 12.51 mi sg (32.40 km2)
 • Dinas 12.50 mi sg (32.37 km2)
 • Dŵr 0.01 mi sg (0.03 km2)  0.09%
Uchder 5,332 tr (1,625 m)
Poblogaeth (2010)
 • Cyfanswm 16,400
 • Dwysedd 1,312/mi sg (506.6/km2)
Cylchfa amser MST (UTC-7)
 • Haf (DST) MDT (UTC-6)
Yn ardal hanesyddol Cañon City saif Gwesty St. Cloud, ar gornel strydoedd "7th" a "Main", ers 1888. Mae'n wag ar hyn o'r bryd. Symudwyd y gwesty bric wrth fric o Silver Cliff, Colorado, yn 1888.

Cañon City /ˈkænjən ˈsɪti/ yw'r dref sirol a'r dref fwyaf poblog yn Swydd Fremont, Colorado. Poblogaeth y ddinas yn 2010 oedd 16,400. Mae Cañon City ar lan Afon Arkansas ac mae'n ganolfan boblogaidd i dwristiaid oherwydd ei chwaraeon dŵr ewyn-gwyllt, fel rafftio.

Hanes

Cynlluniwyd y ddinas yn wreiddiol ar 17 Ionawr, 1858, yn ystod Rhuthr Aur Pike's Peak, ond safai'r tir yn hesb nes i gwmni fachu'r safle yn hwyr yn 1859 gan adeiladu'r adeilad cyntaf yn Chwefror 1860. Bwriadwyd y ddinas fel canolfan fasnachol ar gyfer mwyngloddio.

Poblogaeth

Tyfodd poblogaeth y dref o 229 yn 1870 i 1,501 yn 1880. Yn 2010 roedd wedi tyfu i tua 16,400.

Hynodrwydd

Mae'n ddinas yn enwog fel lleoliad naw carchar taleithiol a phedwar dalfa (penitentiary) ffederal. Mae arwydd croeso'r ddinas yn datgan, "Corrections Capital of the World."[5]

Un hynodrwydd arall i'r ddinas yw i'r United States Board on Geographic Names ganiatáu ychwanegu'r 'sgwigl' (tilde]) i enw swyddogol y ddinas yn 1984. Sillafiad swyddogol y ddinas, felly, yw "Cañon City". Newidwyd yr enw'n swyddogl o Canon City yn 1906 ac yn 1975. Mae'n un o'r ychydig ddinasoedd yn UDA i ddefnyddio Ñ yn ei henw. Yr engreifftiau eraill yw: La Cañada Flintridge, Califfornia, Española, Peñasco, a Cañones, y tri ym Mecsico Newydd.

Canon City yw cyrchfan Byddin Gêl yn y nofel a'r gyfres deledu distopiaidd The Man in the High Castle. Mae Juliana yn y gyfres yn mynd yno er mwyn cludo rîl ffilm gudd i'r 'dyn yn y castell uchel'. Mae Canon City (ynganir heb y tilde yn y gyfres) yn rhan o diriogaeth niwtral y Mynyddoedd Creigiog sy'n gorwedd rhwng Reich Fawr Naziaidd i'r Dwyrain a Thaleithiau Môr Tawel Japan i'r gorllewin.

Cyfeiriadau

  1. "2014 U.S. Gazetteer Files: Places". United States Census Bureau. July 1, 2014. http://www.census.gov/geo/maps-data/data/gazetteer2014.html. Adalwyd 5 Ionawr 2015.
  2. 2.0 2.1 "Active Colorado Municipalities". State of Colorado, Department of Local Affairs. Archifwyd from y gwreiddiol on 2010-11-23. http://www.webcitation.org/5uRWqBo2m?url=http%3A%2F%2Fwww.dola.state.co.us%2Fdlg%2Flocal_governments%2Fmunicipalities.html. Adalwyd 2007-09-01.
  3. "Colorado Municipal Incorporations". State of Colorado, Department of Personnel & Administration, Colorado State Archives. 2004-12-01. http://www.colorado.gov/dpa/doit/archives/muninc.html. Adalwyd 2007-09-02.
  4. "ZIP Code Lookup". Gwasanaeth Post Unol Daleithiau America. Archifwyd from y gwreiddiol on 3 Medi 2007. https://web.archive.org/web/20070903025217/http://zip4.usps.com/zip4/citytown.jsp. Adalwyd 7 Medi 2007.
  5. Welch, Michael; Turner, Fatiniyah (2007). "Private Corrections, Financial Infrastructure, and Transportation: The New Geo-Economy of Shipping Prisoners". Social Justice 34 (3): 57. JSTOR 29768464.
The article is a derivative under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License. A link to the original article can be found here and attribution parties here. By using this site, you agree to the Terms of Use. Gpedia Ⓡ is a registered trademark of the Cyberajah Pty Ltd.