Daniel Silvan Evans

Neidio i: llywio, chwilio
Daniel Silvan Evans

Offeiriad, geiriadurwr a bardd oedd Daniel Silvan Evans (11 Ionawr 1818 -13 Ebrill 1903).

Bywgraffiad

Ganed ef yn Llanarth, Ceredigion, yn fab i Silvanus a Sarah Evans. Wedi cyfnod yn ysgol Neuadd-lwyd, dechreuodd bregethu gyda'r Annibynwyr ac yn 1840 aeth i Goleg yr Annibynwyr yn Aberhonddu am gyfnod byr, cyn gweithio fel athro ysgol. Ymunodd â'r Eglwys, ac aeth i Goleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan yn 1845-6, gan ddod yn ddarlithydd yn y Gymraeg yno yn 1847. Yn 1848 daeth yn gurad Llandegwning, ac ordeiniwyd ef yn offeiriad yn 1849.

Ymhlith y gweithiau a olygwyd gan D. Silvan Evans mae ei argraffiad o Gweledigaethau y Bardd Cwsc gan Ellis Wynne. Dechreuodd gyhoeddi An English and Welsh Dictionary yn 1847, gan orffen y gyfrol gyntaf yn 1852 a chyfrol 2 yn 1858. Bu'n olygydd Y Brython o 1858 i 1860. Bu'n gurad Llangian o 1852 hyd 1862, cyn cael ei benodi yn ficer Llanymawddwy, ac yn 1876 symudodd i fywoliaeth Llanwrin. Bu'n cynorthwyo yr ysgolhaig Albanaidd William Forbes Skene gyda Four Ancient Books of Wales, a chredir mai Evans a wnaeth lawer o'r gwaith mewn gwirionedd. Parhaodd i weithio ar ei Eiriadur, a chyhoeddwyd y gyfrol cyntaf, hyd y llythyren C, erbyn 1893 gyda chymorth ariannol Arglwyddes Llanover. Ni allodd orffen ei eiriadur; cyhoeddwyd y pumed rhan, yr olaf, hyd at y llythyren E, wedi ei farw.

Llyfryddiaeth

  • Blodeu Ieuainc (1843)
  • Telynegion (1846)
  • Elfennau Gallofyddiaeth (1850)
  • Elfennau Seryddiaeth (1851)
  • Llythyraeth yr Iaith Gymraeg (1856)
  • Telyn Dyfi: Manion ar Fesur Cerdd
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
The article is a derivative under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License. A link to the original article can be found here and attribution parties here. By using this site, you agree to the Terms of Use. Gpedia Ⓡ is a registered trademark of the Cyberajah Pty Ltd.