Ffion Hague

Neidio i: llywio, chwilio

Darlledwraig, awdur a chyn-was sifil yw Ffion Hague (ganwyd 1968) a ddaeth yn adnabyddus fel gwraig y gwleidydd ceidwadol William Hague. Ganwyd Ffion Jenkins yng Nghaerdydd ac mae'n siarad Cymraeg. Daeth i'r amlwg yn gyntaf pan cafodd ei dewis i ddysgu'r Gymraeg i'w darpar ŵr pan oedd yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Mae'n chwaer iau i Manon Williams, sy'n ferch i gyn-drefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol Emyr Jenkins. [1][2]

Bywyd cynnar

Mynychodd Ysgol Gyfun Glantaf, lle'r oedd yn perthyn i Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru a'r Côr Cenedlaethol Ieuenctid. Wedi gadael yr ysgol aeth yn ei blaen i astudio Saesneg yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, ac ymunodd â'r Gwasanaeth Sifil ar ôl graddio.[3]

Bywyd personol

Cyfarfu William Hague yn 1995 pan ddaeth yn ysgrifennydd preifat yn y Swyddfa Gymreig. Oherwydd yr embaras a achoswyd gan yr ysgrifennydd Cymru blaenorol (John Redwood) a fethodd ganu'r Anthem Genedlaethol, penderfynodd ei olynydd, Hague, ddechrau dysgu geiriau'r Anthem. Dewiswyd Ffion i wneud hynny, a phriododd y ddau ym 1997 ac ar hyn o bryd maent yn byw ym Mhowys.[4]

Darlledwraig ac awdures

Mae Ffion wedi cyhoeddi bywgraffiad o David Lloyd George o dan y teitl Y Boen a Braint. a chyflwynodd gyfres o raglenni ar gyfer S4C: Mamwlad (2012),Tri Lle (2010) a Dwy Wraig Lloyd George (2009). Mae hi hefyd wedi cyflwyno rhaglenni ar gyfer BBC Radio 3 a BBC Radio 4.[5]

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

The article is a derivative under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License. A link to the original article can be found here and attribution parties here. By using this site, you agree to the Terms of Use. Gpedia Ⓡ is a registered trademark of the Cyberajah Pty Ltd.