Goleddf Rimutaka
Roedd Goleddf Rimutaka yn rhan o'r rheilffordd rhwng Wellington a Featherston ar Ynys y Gogledd, Seland Newydd, tair milltir o hyd rhwng Gorsaf reilffordd Summit a Gorsaf reilffordd Cross Creek, ar raddiant 1:15. Roedd y rheilffordd yn un o 3 i ddefnyddio'r System 'Fell'; roedd un ym Mrasil ac yr un arall ar Fynydd Snaefell ar Ynys Manaw. Defnyddiwyd y System Fell gan sawl rheilffordd arall, ond dim ond fel system brecio.
Disodlwyd y goleddf gan dwnnel ar 3 Tachwedd 1955. Defnyddir cwrs yr hen reilffordd fel llwybr cerdded, y Rimutaka Rail Trail, erbyn hyn. Mae ymddiriodolath dreftadaeth yn gobeithio ail-agor y lein.
Hanes
Agorwyd y goleddf ar 12 Hydref 1878. Adeiladwyd 4 locomotif Fell gan Gwmni Avonside ym 1875 a dau arall gan Gwmni Neilson ym 1886. Adeiladwyd 6 cerbyd diesel ar gyfer teithwyr yng Ngweithdai Hutt yn 1936.[1]