Ieithoedd y Deyrnas Unedig

Neidio i: llywio, chwilio
Ieithoedd y Deyrnas Unedig
Distribution map of languages in the United Kingdom.svg
      Saesneg       Sgoteg       Cymraeg       Gaeleg yr Alban
Prif iaith/ieithoedd Saesneg (98%;[1] cenedlaethol ac yn de facto swyddogol)[a][2][3][4]
Iaith/Ieithoedd lleiafrifol Sgoteg (2.5%),[5] Cymraeg (1%),[6] Sgoteg Wlster (0.05%),[7] Cernyweg (<0.01%), Gaeleg yr Alban (0.1%), Gwyddeleg (0.1%)[a]
Prif iaith/ieithoedd mewnfudo Pwyleg (1%), Punjabi (0.5%), Wrdw (0.5%), Bengaleg (0.4%), Gwjarati (0.4%), Arabeg (0.3%), Ffrangeg (0.3%), Portiwgaleg (0.2%), Sbaeneg (0.2%), Tamileg (0.2%)
Prif iaith/ieithoedd tramor Ffrangeg (23%), Almaeneg (9%), Sbaeneg (8%)[b][8]
Arwyddiaith/Arwyddieithoedd Iaith Arwyddo Brydeinig, Iaith Arwyddo Gwyddelig, Iaith Arwyddo Gogledd Iwerddon
Cynllun(iau) bysellfwrdd cyffredin
QWERTY Prydain
KB United Kingdom.svg
a.^ Y rhai a nododd eu bod yn gallu ei siarad yn "dda" ar y lleiaf.
b.^ Y rhai a nododd fod peth fedr ynddi ganddynt.

Y Saesneg, a thafodieithoedd ohoni, yw'r iaith a siaredir gan y rhan helaeth o'r Deyrnas Unedig,[9] er hynny siaredir sawl iaith "ranbarthol" hefyd. Siaredir un iaith frodorol ar ddeng ar draws Ynysoedd Prydain: tair iaith Almaenaidd, pum iaith Geltaidd a thair iaith Rufeinig. Siaredir hefyd sawl iaith fewnfudo yn Ynysoedd Prydain, gan amlaf mewn ardaloedd dinasoedd; o Dde Asia a Gorllewin Ewrop y mae'r ieithoedd hyn yn bennaf.

Y Saesneg yw'r iaith swyddogol de facto yn y Deyrnas Unedig,[3][4] a siaredir gan ryw 59.8 miliwn o breswylwyr, neu 98% y boblogaeth, sydd yn dair oed a throsodd.[1][2][10][11][12] Mae rhyw 700,000 o bobl yn medru siarad y Gymraeg yn y DU,[13] sydd yn iaith swyddogol yng Nghymru[14] a'r unig iaith swyddogol de jure mewn unrhyw ran o'r DU.[15] Gall rhyw 1.5 miliwn o bobl yn y DU siarad Sgoteg — er bod dadl parthed ai iaith ei hun ynteu amrywiaeth ar y Saesneg ydyw.[5][16]

Mae cryn drafod ar ieithoedd y tair tiriogaeth sy'n ddibynnol y goron (Jersey, Guernsey ac Ynys Manaw),[17] er nad ydynt yn rhan o'r Deyrnas Unedig.

Rhestr o ieithoedd a thafodieithoedd

Byw

Dengys y tabl isod ieithoedd brodorol byw y Deyrnas Unedig (Cymru, Lloegr, yr Alban, a Gogledd Iwerddon). Ni chynhwysir yma ieithoedd tiriogaeth sy'n ddibynnol y goron (Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw).

Iaith Math Siaredir yn Nifer o siaradwyr yn y DU
Saesneg Almaenaidd (Almaenaidd y Gorllewin) Drwyddi draw'r Deyrnas Unedig 59,824,194; 98% (Cyfrifiad 2011)[1]
Sgoteg (Sgoteg Wlstwr yng Ngogledd Iwerddon) Almaenaidd (Almaenaidd y Gorllewin) yr Alban (Iseldiroedd yr Alban, Gallaibh/Caitnes, Ynysoedd y Gogledd)
Gogledd Iwerddon (swyddau Down, Antrim, Derry), Caerferwig
2.6% (Cyfrifiad 2011)
Cymraeg Celtaidd (Brythonaidd) Cymru (yn enwedig y gorllewin a'r gogledd) a rhannau o Loegr ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr; cymunedau'r Cymry mewn dinasoedd mawrion Lloegr megis Llundain, Birmingham, Manceinion, a Lerpwl. 700,000; 1% (amcangyfrifiad)[13]
  • Cymru: 562,016; 19% (gyda 431,000, neu 14.6%, yn ystyried eu hunain yn rhugl)[19][20]
    Pob medr (siarad, darllen, neu ysgrifennu): 630,062[21]
  • Lloegr: 110,000 (amcangyfrifiad o'r siaradwyr yn 2001)[13]
    8,200 o siaradwyr iaith gyntaf (Cyfrifiad 2011)[22]
  • yr Alban a Gogledd Iwerddon: 1,000 (amcangyfrifiad o'r siaradwyr yn 2001)[13]
Iaith Arwyddo Prydeinig BANZSL Drwyddi draw'r Deyrnas Unedig 125,000[23] (data 2010)
Gwyddeleg Celtaidd (Goedelig) Gogledd Iwerddon, gyda chymunedau yn Glasgow, Lerpwl, Manceinion, Llundain ayyb. 95,000[24] (data 2004)
Angloromaneg Cymysg Cymru, yr Alban, a Lloegr 90,000[25] (data 1990)
Gaeleg yr Alban Celtaidd (Goedelig) yr Alban (Ucheldiroedd yr Alban ac Ynysoedd Heledd gyda lleiafrifoedd sylweddol mewn sawl dinas Albanaidd; cymuned fechan yn Lloegr) 65,674,[4] (Cyfrifiad yr Alban 2001) er mai 32,400 yw'r nifer sydd yn rhugl ym mhob tri medr[26]
Cernyweg Celtaidd (Brythonaidd) Cernyw (lleiafrifoedd bychain o siaradwyr yn Aberplym, Llundain, a De Cymru) 557[27] (data 2011)
Sielteg Cymysg Drwyddi draw'r Deyrnas Unedig Ni wyddys yr union nifer o siaradwyr, ond mae Ethnolouge yn nodi 30,000 yn y DU[28]
Iaith Arwyddo Gwyddelig Ffrengig Gogledd Iwerddon Anhysbys
Iaith Arwyddo Gogledd Iwerddon BANZSL Gogledd Iwerddon Anhysbys

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 1.2 Yn ôl y Cyfrifiad 2011, gall 53,098,301 o bobl yng Nghymru a Lloegr, 5,044,683 o bobl yn yr Alban, a 1,681,210 o bobl yng Ngogledd Iwerddon siarad y Saesneg yn "dda" neu'n "dda iawn"; sef cyfanswm o 59,824,194. Felly, o'r 60,815,385 o breswylwyr y DU sydd yn dair oed a throsodd, gall 98% siarad y Saesneg yn "dda" neu'n "dda iawn".
  2. 2.0 2.1 "United Kingdom". Languages Across Europe. BBC. http://www.bbc.co.uk/languages/european_languages/countries/uk.shtml. Adalwyd 21 November 2013.
  3. 3.0 3.1 United Kingdom; Key Facts. Commonwealth Secretariat. http://www.thecommonwealth.org/YearbookHomeInternal/139560/. Adalwyd 23 April 2008.
  4. 4.0 4.1 4.2 "English language". Directgov. Archifwyd from y gwreiddiol on 3 October 2012. http://webarchive.nationalarchives.gov.uk/20121015000000/http://www.direct.gov.uk/en/Governmentcitizensandrights/LivingintheUK/DG_10012519. Adalwyd 21 November 2013.
  5. 5.0 5.1 Scotland's Census 2011 – Language, All people aged 3 and over. Out of the 60,815,385 residents of the UK over the age of three, 1,541,693 (2.5%) can speak Scots, link.
  6. QS206WA – Welsh language skills, ONS 2011 census. Out of the 60,815,385 residents of the UK over the age of three, 562,016 (1%) can speak Welsh. Retrieved 15 March 2015.
  7. 7.0 7.1 Anorak, Scots. "Ulster Scots in the Northern Ireland Census". Scots Language Centre. http://www.scotslanguage.com/Ulster_Scots_in_the_Northern_Ireland_Census. Adalwyd 21 November 2013.
  8. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni osodwyd unrhyw destun ar gyfer y 'ref' ec.europa.eu
  9. http://www.cambridge.org/uk/catalogue/catalogue.asp?isbn=9780521794886
  10. Scotland's Census 2011 – Proficiency in English, All people aged 3 and over.
  11. Northern Ireland Census 2011 – Main language and Proficiency in English, All usual residents aged 3 and over.
  12. ONS census, QS205EW – Proficiency in English. Retrieved 15 March 2015.
  13. 13.0 13.1 13.2 13.3 Bwrdd yr Iaith Gymraeg, A statistical overview of the Welsh language, by Hywel M Jones, page 115, 13.5.1.6, England. Published February 2012. Retrieved 28 March 2016.
  14. "Welsh Language (Wales) Measure 2011". legislation.gov.uk. The National Archives. http://www.legislation.gov.uk/mwa/2011/1/section/1/enacted. Adalwyd 30 May 2016.
  15. "Welsh Language Measure receives Royal Assent". Welsh Government. 11 February 2011. Archifwyd from y gwreiddiol on 22 September 2013. https://web.archive.org/web/20130922140142/http://wales.gov.uk/newsroom/welshlanguage/2011/110211welshlang/?lang=en. Adalwyd 21 November 2013.
  16. A.J. Aitken in The Oxford Companion to the English Language, Oxford University Press 1992. p.894
  17. "Background briefing on the Crown Dependencies: Jersey, Guernsey and the Isle of Man" (PDF). Ministry of Justice. http://www.justice.gov.uk/downloads/about/moj/our-responsibilities/Background_Briefing_on_the_Crown_Dependencies2.pdf. Adalwyd 9 March 2015.
  18. Scotland's Census 2011 – Language, All people aged 3 and over. Out of the 5,118,223 residents of Scotland over the age of three, 1,541,693 (30%) can speak Scots.
  19. QS206WA - Welsh language skills, ONS 2011 census. Out of the 2,955,841 residents of Wales over the age of three, 562,016 (19%) can speak Welsh. Retrieved 20 July 2015.
  20. "2011 Census: Key Statistics for Wales, March 2011". Office for National Statistics. http://ons.gov.uk/ons/rel/census/2011-census/key-statistics-for-unitary-authorities-in-wales/stb-2011-census-key-statistics-for-wales.html. Adalwyd 21 November 2013.
  21. http://www.nomisweb.co.uk/census/2011/QS206WA/view/2092957700?cols=measures
  22. "2011 Census, Key Statistics and Quick Statistics for Wards and Output Areas in England and Wales". Office for National Statistics. 30 January 2013. http://www.ons.gov.uk/ons/publications/re-reference-tables.html?newquery=*&newoffset=0&pageSize=25&edition=tcm%3A77-286348. Adalwyd 21 November 2013.
  23. "The GP Patient Survey in Northern Ireland 2009/10 Summary Report". Department of Health, Social Services, and Public Safety. http://www.dhsspsni.gov.uk/gpps_ni_summary_report.pdf. Adalwyd 21 November 2013.
  24. "United Kingdom". Ethnologue. http://www.ethnologue.com/country/GB. Adalwyd 21 November 2013.
  25. "Angloromani". Ethnologue. http://www.ethnologue.com/language/rme. Adalwyd 21 November 2013.
  26. "Scotland’s Census 2011: Gaelic report (Part 1)". National Records of Scotland. https://www.nrscotland.gov.uk/news/2015/scotlands-census-2011-gaelic-report-part-1. Adalwyd 26 Rhagfyr 2016.
  27. "South West". TeachingEnglish (BBC British Council). 2010. Archifwyd from y gwreiddiol on 8 January 2010. https://web.archive.org/web/20100108190250/http://www.teachingenglish.org.uk/uk-languages/south-west. Adalwyd 9 February 2010.
  28. https://www.ethnologue.com/country/GB
The article is a derivative under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License. A link to the original article can be found here and attribution parties here. By using this site, you agree to the Terms of Use. Gpedia Ⓡ is a registered trademark of the Cyberajah Pty Ltd.