Moloka'i

Neidio i: llywio, chwilio

Molokaʻʻi neu Molokai (/ˈmɒlək//ˈmɒlək/; Hawäieg: [ˈmoloˈkɐʔi]), yn aml caiff eu galw'n yr "Ynys Gyfeillgar", mae'n ynys yn yr ynysforoedd Hawäiad/Hawaiian archipelago. Mae'n 38 wrth 10 milltir  (61 wrth 16 km) mewn maint  tir a all gael ei ddefnyddio sef 260 milltir (673.40km sgwâr) sydd yn ei gwneud y bumed ynys fwyaf yn Ynysoedd Hawäi â'r 27ed fwyaf yn yr Unol Daleithiau.[1] Gorweddai i'r dwyrain o Oʻʻaha ar draws Sianel Kaiwi sydd yn 25 milltir  (40km) o led ac i'r gogledd o  Lānaʻʻi, gyda Sianel/ Kalohi Channel yn eu gwahanu.

Fe adnabyddir yr ynys am ddatblygiadau gan Molokai Ranch ar lawer o'r ynys, am gynhyrchu pînafal, ffermio gwartheg a thwristiaeth. Gall trigoloion neu ymwelwyr ar ochr orllewinol Moloka'i weld goleuadau Honolulu ar O'ahu gyda'r nos; gallent weld Lānaʻʻi cyfagos a  Maui  o unrhyw le ar hyd glannau deheuol yr ynys. Yn Sir/ Kalawao County, ar Benrhyn/ Kalaupapa Peninsula ar landau gogleddol yr ynys, sefydlwyd aneddiadau yn 1866 er mwyn ymdrîn â chleifion a gwahanglwyf/leprosy dan amodau cwarantin; parhaodd hyn hyd at 1969. Parc Haesyddol Cenedalethol Kalaupapa/Kalaupapa National Historical Park yw nawr corff cadwriaethol yr holl sir a'r ardal.

Daearyddiaeth

Dwyrain Moloka'i gyda rhan o Kamakou a Chadwedigaeth Coedwig Molokai.

Datblygodd Moloka'i o ddwy losgfynydd tarian  ar wahân a elwir yn Ddwyrain Moloka'i a Gorllwein Moloka'i sydd yn llawer llai o faint.Molokaʻʻi. Y pwynt uchaf yw Kamakou[2] ar Dwyrain Moloka'i sydd ag uchder o 4,970 troedfedd (1,510 m).  Heddiw, mae llosgfynydd Dwyrain Moloka'i fel y  Koʻʻolau Range ar Oʻʻahu, yw beth sydd yn weddill o hanner ddeheuol o'r mynydd gwreiddiol. Dioddefodd yr ochr ogleddol  gwymp trychinebol tua 1.5 miliwn o flynyddoedd yn ôl a nawr mae'n gorwedd fel maes malurion wedi ei wasgaru tua'r gogledd ar hyd waelodion y Cefnfor Tawel/ Pacific Ocean.[3] Mae beth sydd yn weddill o losgfynydd yr ynys bellach yn cynnwys clogwynni môr uchaf y byd.[4]  Mae i lan deheuol Moloka'i y rîff ymylol hiram yn yr U.D.A.  - born dawn i 25 milltir (40km) o hyd.[6]

Mae Molokaʻʻi yn rhan o dalaith Hawäi/state of Hawaiʻʻi ac fe'i lleolid yn Sir Maui/ Maui County, ar wahân i Benrhyn/ Kalaupapa Peninsula, sydd yn cael ei weinyddu fel Sir Kalawao/Kalawao County. Mae Sir Maui yn cwmpasu  Maui, Lānaʻʻi, a Kahoʻʻolawe  yn o gystal â Molokaʻʻi. Y dref fwyaf ar yr ynys yw Kaunakakai, sydd yn un o ddau borthladd bach ar yr ynys. Mae Maes Awyr Moloka'i/ Molokai Airport wedi ei leoli ar Orllwein Moloka'i. Mae Biwro Cyfrifiad yr Unol Daleithiau (United States Census Bureau) yn rhannu'r ynys i dair rhan cyfrifiadol  (census tracts): Census Tract 317 a Census Tract 318 o Sir Maui/ Maui County, Hawaii, a Census Tract 319 o Sir Kalawao/Kalawao County, Hawaii. Cyfanswm poblogaeth cyfrifad 2010  o'r rhain oedd 7,345,[5] yn byw ar arwynebedd tirol o 260.02 milltir sgwârs (673.45 km2).[6] Mae Molokaʻʻi wedi ei wahanu o Oʻʻaha yn y gorllewin gan Sianel Kaiwi/Kaiwi Channel, o Maui yn y de-ddwyrain gan Sianel Pailolo/Pailolo Channel, ac o Lānaʻʻi yn y de gan Sianel Kalohi/Kalohi Channel.

Ecoleg

Parc Traethol Bae Halwa/Halwa Bay Beach Park, lleolir ar ben bellaf dwyreiniol Molokaʻʻi.

Mae Molokaʻʻi wedi ei rannu i ddwy brif ardal ddaearegol. Mae'r hanner isel orllewinol yn sych iawn ac mae'r ddaear yno wedi ei erydu'n ddrwg oherwydd arferion rheoli tir gwael a adawodd gor-bori gan eifr. Mae diffyg gorchydd llystyfiant sylweddol ac mae'r holl ardal wedi ei orchuddio â choed di-gynghenid  kiawe (Prosopis pallida). Un o'r ychydig ardaloedd naturiol sydd ar ôl sydd bron yn ei gyfanrwydd yw twynni arfordirol  Moʻʻomomi,  sydd yn rhan o gadwriaeth Warchodaeth Natur.

Codai hanner ddwyreiniol yr ynys  i lwyfandir uchel 4,900 troedfedd (1,500) erbyn copa Kamakou gan hefyd gynnwys yr 2,774 erw (11.23 km2; 4.334 sq mi) Gwarchodfa Coedwigaeth Moloka'i.[7] Mae'r hanner ddwyreiniol wedi ei orchuddio â choedwigoedd gwlyb ( wet forests ) toreithiog a gai mwy na 300 modf (7,600 mm) o law y flwyddyn. Caiff y coedwigoedd uchel eu poblogi gan goed ʻʻōhiʻʻa lehua (Metrosideros polymorpha) gynhenid ac fe geir amrywiaeth eithriadol o blanhigion ac anifeiliaid endemic yn yr isdyfiant. Mae llawer o'r ardal ger y copa yn cael ei warchod gan warchodfeydd dyffrynnoedd Gwarchodfa Natur Kamakou a Pelekunu. O dan 4,000 troedfedd (1,200 m), mae planhigion ecsotig fel y 'gwafa mefus'/strawberry guava (Psidium littorale), ewcalyptws (Eucalyptus spp.), a chypreswydden (Cupressus spp.) yn tra-awdurdodi'r llystyfiant. Mae anifeiliaid a gyflwynwyd i'r ynys megis ceirw/ axis deer (Axis axis) a moch gwyllt  (Sus scruff) yn crwydro'r coedwigoedd cynhenid, yn dinistrio'r planhigion cynhenid, ehangu'r planhigion ecsotig drwy aflonuddu a ddosbarthu eu hadau , a bygwth trychfilod cynhenid. Yn agos i gopa Kamakou mae cors unigryw  Pepeʻʻopae bog, lle ceir gor-blanhigyn ʻʻōhiʻʻa a phlanhigion eraill yn gorchuddio'r ddaear gwlyb .

Mae Molokaʻʻi yn gartref i nifer fawr o rywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid endemig.  Beth bynnag mae nifer o'r rhywogaethau gan gynnwys yr olomaʻʻo (Myadestes lanaiensis), kākāwahie (Paroreomyza flammea), a'r Molokaʻʻi ʻʻōʻʻō (Moho bishopi) wedi marw allan. Mae Moloka'i yn gartref i bryfyn di-aden ymysg nifer o'i thrychfilod endemig.

Hanes

Credir i Foloka'i gael ei sefydlu gan bobloedd brodol tuag 650OC, mwyaf tebyg gan bobl o Ynysoedd y Marquesas/Marquesas Islands. Beth bynnag, mewn astudiaeth a wnaed yn 2010 mae ddefnyddio samplau   mwy dibynadwy dyddio radio-carbon wedi datgan fod amser coloneiddio Polynesia dwyreiniol o'r Ynysoedd Marquesas wedi cymeryd lle llawer hwyrach, mewn llai o amser mwy dwy don:   "earliest in the Society Islands c. 1025–1120, four centuries later than previously assumed; then after 70–265 years, dispersal continued in one major pulse to all remaining islands c. 1190–1290."[8] Hwyrach ymlaen mwyaf tebyg daeth mewnfudywr o Tahiti ac ynysoedd eraill o'r Cefnfor Tawel ddeheuol. Er i Gapten  James Cook  gofnodi  weld Moloka'i yn 1778, yr Ewropead cyntaf a hwyliodd i ymweld â'r ynys oedd Capten George Dixon o'r Lynges Brydeinig.[9] Daeth y dylanwad sylweddol Ewropeaidd cyntaf yn 1832 pan sefydlwyd cenhad Protestanaidd yn Kalua'aha yn nwyrain yr ynys gan y Parchedig Harvey Hitchock.Yn yr 1880au hwyr adeiladodd Brenin Kamehameha y 5ed dŷ gwyliau yn Kaunakakai a gorchmynnodd i 1,000 o goes cnau coco gael eu plans yn  Kapuaiwa Coconut Grove.[10]

Trefedigaeth Gwahanglwyf

Gwahanglwyf/Leprosy (a elwir hefyd yn afiechydl Hansen) oedd ymysg yr afiechydon  a gyflwynwyd i'r ynysoedd Hawäiad gan fasnachwyr, longwyr, gweithwyr ac eraill a oedd wedi byw mewn cymdeithasau lle roedd gwahanglwyf yn endemig yn barod. Oherwydd eu diffyg imiwnyddol i'r afiechydon newydd fe ddioddefodd yr ynyswyr gyfraddu uchel o heintia a marwolaethau o'r fresh wen/smallpox, colera/cholera a'r pâs/whooping cough,  yn o gystal a'r gwahanglwyf. Roedd plannwyr siwgr yn bryderus am yr effaith ar eu gweithlu a fe roddwyd bwysau ar y llywodraeth i weithredu a rheoli lledaeniad gwahanglwyf.

Cytunodd y llywodraeth ar ddeddfwriaeth i fynnu fod  pobl hefo gwahanglwyf yn cael eu cadw mewn cwarantin. Sefydlodd y llywodraeth Kalawao, ar benrhyn Kalaupapa ar ochr ogleddol Moloka'i, gan ddilyn hefo Kalaupapa fel manau trefedigaeth gwahangleifion  a oedd yn weithredol o 1866 hyd at 1969. Oherwydd oedd gan Kalaupapa well hinsawdd a mynediad morol, fe'i ddatblygwyd fel y prif gymuned. Datblygwyd ysbyty ymchwil yn Kalawao. Cyrrhaeddodd poblogaeth y aneddiadau uchafswm o 1100 yn dilyn troad yr 20fed ganrif. 

Mewn cyfanswm tros y degawdau, fe alltudwyd tros 8500 o ddynion, merched a phlant a chanfwyd â gwahanglwyf  trwy gydol yr ynysoedd Hawäiad i'r drefedigaeth ac fe'u datganwyd yn gyfreithiol-farw gan lywodraeth Hawäi. Parahaodd y mesur iechyd gyhoeddus hon ar ôl i'r Ddeyrnas ddod yn rhan o diriogaeth yr UDA. Gwaharddwyd y cleifion rhag gadael y anedd nac i dderbyn ymwelwyr, ac rhaid oedd iddynt fyw gweddill eu bywydau yno. Yn yr 21fed ganrif, does dim person gyda gwahanglwyf actif,  sydd wedi cael ei reoli gyda meddigyniaeth, ar yr ynys, ond mae rhai cyn-gleifion yn dewis dal i fyw yn yr hen anedd ar ôl iddo gael ei gau'n swyddogol.[11][12]

Gwasanaethodd y Tad Damien de Veuster, parchedig o Gynulleidfa Calon Sanctaidd Iesu a Mair/ Congregation of the Sacred Hearts of Jesus and Mary o Wlad Belg fel cenhadwr i'r cymunedau a ddioddefodd o wahanglwyf am 16 mlynedd. Daeth Joseph Dutton, a wasanaethodd yn y 13ed Gatrawd Wirfoddolol Milwyr Wisconsin yn ystod Rhyfel Cartref America a throsodd at yr eglwys Babyddol yn 1883, i Foloka'i  yn 1886 i helpu Tad Damien a gweddill y boblogaeth a ddioddefodd o wahanglwyf. Arhosodd yno tan ei farwolaeth yn 1931.Daeth y Fam Marianne Cope/Mother Marianne Cope o Chwiorydd San Francis o Syracuse Efrog Newydd/ Sisters of Saint Francis of Syracuse, New York,  a chwech o'i Chwiorydd i weithio efo'r gwahanglwyfus yn Hawäi yn hwyr yn yr 19ed ganrif, gan gynnwys gwasanaethu Moloka'i. Mae'r Tad Damien â'r Fam Marianne naill wedi eu canoneiddio gan yr eglwys Babyddol am eu gwaith elusennol a'u hymroddiad i ddioddefwyr o wahanglwyf. Yn Rhagfyr 2015, agorwyd Achos Joseph Dutton yn swyddogol, gan ymorol iddo'r teitl Gwasanaethwr Duw. 

Economi

Gan ddechrau yn 1897, fe brynwyd llawer o ben orllewinnol yr ynys oddi ar yr Hawäiad gan Moloka'i Ranch i weithrdu fferm warthog. O 1923 a 1985, llogwyd miloedd o aceri o'u tir i gynhyrchwyr pin afal , ac fe ffynnodd yr diwydiant ar yr ynys , gan barhau i ddenu mewnfudwyr  o Siapan ac Ynysoedd y Philipinos fel cyflogwyr ar gyflogau isel. Ers yn hwyr yn y 20fed ganrif, mae'r diwydiant pîn afal wedi dioddef ar draws Hawäi.  [angen ffynhonnell]

Tros y blynyddoedd mae cwmni'r Ranch hefyd wedi gweithredu fel datblygwr, gan sefydlu gwestai ac adnoddau perthnasol ar gyfer twristiaid ar eu heiddo.Yn 2007, fe drefnodd y preswylwyr sefydlog fudiad   In 2007 community residents organized in the "Achubwch La'au Point" i wrthwynebu ymgyrch Moloka'i Ranch i ehangu ei center preswyl.[13] Mewn canlyniad, ar Fawrth 24, 2008, penderfynnodd Moloka'i Ranch, cyflogwr mwyaf yr ynys  ar y pryd i gau lawr holl weithredoedd y preswylfa gan gynnwys gwestai, sinema, tai bwyta a chwrs golff, gan ddiswyddo 120 o weithwyr.[14]

Oherwydd ei natur wledig, amethyddol , mae gan Moloka'i gyfradd di-weithdra uchaf Hawäi. Mae traean o'r boblogaeth yn defnyddio stampiau bwyd.[15] Ers 2014, y diwydiant mwyaf ar yr ynys yw cynhyrchu hadau i Monsanto a hadau/Mycogen seeds, gan gynnwys hadau OAE (Organeb a Addaswyd yn Enetig) (Genetically Modified Organism, GMO.)[15]

Twristiaeth

Arwyddion yn croesawu ymwelwyr ym Maes Awyr Moloka'i.

Er nad yw twristiaeth yn ddiwydiant mor fawr ar Foloka'i ag y mae ar rai o ynysoedd eraill Hawäi, mae gan Moloka'i ar gyfartaledd tua mil o ymwelwyr y dydd.[16] Am flynyddoedd, mae preswylwyr Moloka'i wedi gwrthsefyll ymgeisiau datblygwyr preifat i gynyddu twristiaeth. Mae llefydd preswyl ar yr ynys yn brin, erbyn 2014 doedd dim and un gwesty yn agreed ar yr ynys. Mae'r rhan fwyaf o dwristiaid yn cael hyd i lety mewn tai a chondominia yw rentu.

Credir mai Molokaʻʻi yw man geni yr hula. Cynhelir gwledd flynyddol yr Molokai Ka Hula Piko ar yr ynys.[17]

Gellir cyrraedd Molokaʻʻi gan awyren neu fferi.Mae awyrennau'n hedfan i Foloka'i'n ddyddiol o ynysoedd eraill Hawäi gan gynnwys  Oahu (Honolulu a Kalaeloa), Maui (Kahului) a Hawäi (Kona) ar  Mokulele Airlines, Makani Kai Air, Paragon Air a Hawaiian Airlines.[18][19][20] Mae gwasanaeth fferi rhwng Moloka'i a Harbwr Lahaina, Maui dwywaith y dydd.[21]

Rhydweithiau mewnol

Gofal Iechyd

Mae Ysbyty Gyffredinol Moloka'i yn gwasanaethu'r ynys 24-7.

Addysg

Mae system adding yr ynys yn cynnwys 4 ysgol elfennol, un ysgol iau ac un ysgol uwchradd. Mae yno hefyd goleg cymunedol.[22] Mae gan yr ynys un ysgol iau breifat.[23]

Priffyrdd

Mae'n bosib tramwyo'r ynys ar hyd un ffordd sengl sydd yn rhedeg o'r dwyrain i'r gorllewin (ffyrdd 450 a 460). Mae Priffordd 470 yn ysbardun i fynny i fynyddoedd ffîn Sir Kalawao a Phenrhyn Kalaupapa. Mae'n bosib cyrraedd yr ardal hon (Kalaupapa) drwy ful neu lwybrau cerdded. Prif fynediad i Benrhyn Kalaupapa yw drwy'r môr.  

Parciau

Mae'r ynys yn cynnwys nifer o barciau ac ardaloedd ar warchod eraill, gan gynnwys Parc Taleithiol Palau, Parc Traeth Kiowa, Lloches Cenedlaethol Bywyd Gwyllt Kakahaia, Gwarchodle Coedwigaeth Moloka'i, Cadwraeth Pelekunu, Parc Traeth George Murphy, Parc Traeth Halawa, a Pharc Traeth Papohaku (3 milltir o draeth dilychwin) yn y rhan o fewn Sir Maui. Heddiw fe ddiogelir Sir Kalawao gan Barc Hanesyddol Cenedlaethol Kalaupapa /Kalaupapa National Historical Park (mynediad gan ful neu deithiau cerdded).[24][25]

Popol Nodedig

  • Mother Marianne Cope, Lleian 19fed-ganrif a santes.
  • Father Damien de Veuster, Offeiriad a sant Pabyddol o'r 19fed ganrif.
  • Joseph Dutton, Cenhadwr Pabyddol a weithiodd gyda Tad Damien.
  • Harvey Rexford Hitchcock, cenhadwr Protestannaidd.
  • Peter Johnson Gulick, cenhadwr Protestannaidd.
  • Linda Lingle, 6ed Llywodraethwr Hawäi
  • William Ragsdale, twrnai a gwleidydd poblogaidd Hawäiad, gwasanaethodd fel uwcharolygydd yn Kalaupapa am bedair mlynedd  (1874-1878)[26]
  • Scott D. Whiting, Arlywydd a phrif weithredwr o Molokai Ranch
  • Rudolph Wilhelm Meyer,gwleidydd a dyn busnes amaethyddol yn Hawäi.
  • Lois-Ann Yamanaka, brad a nofelydd.
  • Harvey Rexford Hitchcock, Jr., 1913 College Football All-America Team
  • Melveen Leed, canwr.
  • Keith Luuloa, chwaraewr proffesiynnol pêl fasged. (Anaheim Angels)
  1. "Table 5.08 - Land Area of Islands: 2000". 2004 State of Hawaii Data Book. State of Hawaii. 2004. http://www.hawaii.gov/dbedt/info/economic/databook/db2004/section05.pdf. Adalwyd 2007-07-23.
  2. "Table 5.11 - Elevations of Major Summits". 2004 State of Hawaii Data Book. State of Hawaii. 2004. http://www.hawaii.gov/dbedt/info/economic/databook/db2004/section05.pdf. Adalwyd 2007-07-23.
  3. Hawaiian landslides have been catastrophic, Monterey Bay Aquarium Research Institute
  4. Culliney, John L. (2006) Islands in a Far Sea: The Fate of Nature in Hawaii.
  5. "Resident Population of Islands 1960 to 2010". http://files.hawaii.gov/dbedt/economic/databook/2010-individual/01/010510.pdf.
  6. Census Tracts 317 and 318, Maui County; and Census Tract 319, Kalawao County United States Census Bureau
  7. Molokai Forest Reserve — Department of Land and Natural Resources
  8. Janet M. Wilmshurst; Terry L. Hunt; Carl P. Lipo; Atholl J. Anderson. "High-precision radiocarbon dating shows recent and rapid initial human colonization of East Polynesia". PNAS 108 (5): 1815–20. doi:10.1073/pnas.1015876108. http://www.pnas.org/content/108/5/1815.full. Adalwyd 26 October 2015.
  9. "Molokai History". http://visitmolokai.com/history.php.
  10. "Molokai History". http://www.gohawaii.com/molokai/about/history.
  11. "Kalaupapa National Historical Park - Hansen's Disease Patients at Kalawao and Kalaupapa (U.S. National Park Service)."
  12. "Kalaupapa, Molokai, Hawaii - Father Damien". VisitMolokai.com web site. http://visitmolokai.com/kala.html. Adalwyd 2009-09-29.
  13. title= |work= Star Bulletin | Business | date=14 January 2007
  14. "Molokai Ranch: A year after closure, times are hard but spirit is alive", Maui News
  15. 15.0 15.1 "Molokai has the Most to Lose but the Least Say in the GMO Debate". http://www.civilbeat.com/2014/07/molokai-has-the-most-to-lose-but-least-say-in-gmo-debate/.
  16. "Visit Molokai". http://visitmolokai.com/.
  17. Molokai Ka Hula Piko, Aloha-Hawaii website
  18. "Molokai Airport". http://hawaii.gov/mkk.
  19. "Mokulele Airlines Schedule". http://www.mokuleleairlines.com/flight-schedule.php.
  20. "Getting to Molokai". http://visitmolokai.com/transport.php.
  21. "Molokai Ferry". http://www.hawaiioceanproject.com/MolokaiFerry.php.
  22. "Molokai Schools". http://visitmolokai.com/schools.php.
  23. "Akaula School". http://akaulaschool.org/.
  24. "Kalaupapa National Historic Park". http://www.gohawaii.com/molokai/regions-neighborhoods/central-molokai/kalaupapa-national-historic-park.
  25. "Papohaku Beach Park". Go Hawaii. http://www.gohawaii.com/molokai/regions-neighborhoods/west-end/papohaku-beach.
  26. Gavan Daws, Holy Man: Father Damien of Molokai, Honolulu: University of Hawaii Press, 1984, pp. 89-92

Cyfeiriadau

The article is a derivative under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License. A link to the original article can be found here and attribution parties here. By using this site, you agree to the Terms of Use. Gpedia Ⓡ is a registered trademark of the Cyberajah Pty Ltd.