Offeren

Neidio i: llywio, chwilio

Gwasanaeth Cristnogol a'i litwrgi sy'n cynnwys yr Ewcharist neu'r cymun, gweinyddiad y sacrament, neu'r ordinhad o Swper yr Arglwydd yw'r offeren[1] yn enwedig yn yr Eglwys Gatholig Rufeinig, ond hefyd gan eglwysi a chynulleidfaoedd eraill megis yr Anglo-Gatholigion ac Anglicaniaid yr Uchel Eglwys.

Yr Eglwys Babyddol

Sacrament yr Ewcharist, neu dderbyn y cymun, yw canolbwynt yw'r Offeren Babyddol. Seilir y ffurfwasanaeth ar litwrgi hynafol sy'n dyddio'n ôl i'r oes Rufeinig. Mae'r ddefod yn cynnwys dwy ran: Litwrgi'r Gair, sy'n cynnwys darlleniadau o'r ysgrythur a'r bregeth neu homili; a Litwrgi'r Ewcharist, sy'n cynnwys yr offrymiad, gweddi'r cysegriad neu'r canon, a defod y cymun. Wrth graidd diwinyddiaeth yr Offeren Babyddol mae athrawiaeth trawsylweddiad. Newidiodd yr Offeren yn sgil Ail Gyngor y Fatican (1962–65), er enghraifft rhoddwyd caniatâd i ddefnyddio ieithoedd ar wahân i'r Lladin.

Cerddoriaeth

Searchtool.svg
Prif erthygl: Cerddoriaeth yr offeren

Gall "offeren" hefyd gyfeirio at osodiad cerddorol o rannau o wasanaeth yr offeren.[1]

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1  offeren. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 6 Ionawr 2017.
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
The article is a derivative under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License. A link to the original article can be found here and attribution parties here. By using this site, you agree to the Terms of Use. Gpedia Ⓡ is a registered trademark of the Cyberajah Pty Ltd.