Prifysgol Paris

Neidio i: llywio, chwilio
Prifysgol Paris
Université de Paris
P1300734 Paris V place de la Sorbonne rwk.jpg
Adeilad y Sorbonne
Enw Lladin Universitas magistrorum et scholarium Parisiensis
Arwyddair Hic et ubique terrarum
Arwyddair yn Gymraeg Yn y fan hon ac yn unrhyw fan yn y byd
Sefydlwyd tua 1150 (1150)–1793
1896
Caewyd 1970 (1970)
Math Corfforaeth: tua 1150–1793
Prifysgol gyhoeddus: 1896–1970
Lleoliad Paris, Ffrainc
Campws Trefol
Llysenw Y Sorbonne
Armes de l universite de paris.png

Prifysgol hanesyddol ym Mharis, Ffrainc, oedd Prifysgol Paris (Ffrangeg: Université de Paris). Sefydlwyd Prifysgol Paris tua 1150, gan dyfu o ysgolion Notre-Dame a chadeirlannau eraill. Ffurf ar gorfforaeth neu gild ydoedd, yn debyg i'r mwyafrif o hen brifysgolion Ewrop, ac athrawon a myfyrwyr fel ei gilydd yn aelodau'r cwmni. Derbyniodd ei siarter gan y Brenin Philippe II ym 1200, a chydnabuwyd y brifysgol gan y Pab Innocentius III ym 1215. Hon yw'r brifysgol hynaf yn Ewrop ond am Bologna, sy'n dyddio'n ôl i droad y milflwyddiant a derbyniodd ei siarter ym 1158.

Rhennid y brifysgol gynnar yn bedair cyfadran: y tri uwch-bwnc, diwinyddiaeth, cyfraith ganonaidd, a meddygaeth, a'r un is-bwnc, y celfyddydau. Yng nghyfadran y celfyddydau dysgodd myfyrwyr y trifiwm (gramadeg, rhethreg, a dilechdid) a'r cwadrifiwm (rhifyddeg, geometreg, seryddiaeth, a cherddoriaeth) yn ogystal ag astudiaethau cyffredinol parthed gwyddoniaeth, llenyddiaeth, a diwylliant. Deon oedd yn bennaeth ar bob cyfadran, ac erbyn y 14eg ganrif roedd deon y celfyddydau yn bennaeth yr holl brifysgol gan ddwyn y teitl rheithor.

Enillodd y sefydliad ei fri fel un o brifysgolion mawr Ewrop yn yr Oesoedd Canol ac yn ganolfan i ddysg Babyddol. I'r Babaeth, Paris oedd canolfan diwinyddiaeth y tu hwnt i'r Alpau ac felly'n bwysig wrth ymledu'r ffydd Gatholig ar draws Ewrop. Cyrhaeddodd ei hanterth yn y 14eg ganrif pan oedd yn gartref i Alexander o Hales, Sant Bonaventure, Albertus Magnus, a Tomos o Acwin, a galwid ar ddoethuriaid Paris i ddadlau a dyfarnu ar faterion eglwysig o bwys. Y dilechdid ysgolaidd oedd yn sail i'r rhaglen addysg, a chanolbwyntiodd cyfadran y celfyddydau ar athroniaeth Aristotlys yn enwedig.

Agorodd yr ysgol ddiwinyddol tua 1253–7 gan Robert de Sorbon (1201–74), caplan y Brenin Louis IX. Maison de Sorbonne, y neuadd breswyl a roddid i'r myfyrwyr nad oeddent yn frodyr cardod, oedd yr adeilad academaidd cyntaf o nod yn y Quartier latin, yr ardal enwog o Baris sydd hyd heddiw'n hafan i fyfyrwyr ac ysgolheigion, cerddorion ac arlunwyr. Lladin, wrth gwrs, oedd iaith y prifysgolion a'r Eglwys yn ystod yr Oesoedd Canol. Yn yr 16eg ganrif defnyddid y Sorbonne yn gyntaf fel trawsenw am y brifysgol gyfan, gan i drafodaethau deallusol y diwinyddion rhuo drwy neuaddau'r adeilad hwnnw. Anwybyddodd ddyneiddiaeth y Dadeni ac ni addasodd i newidiadau'r Diwygiad nac ychwaith y Gwrth-Ddiwygiad. Sefydlwyd colegau a chyfadrannau eraill, er enghraifft ym 1626, ond Coleg y Sorbonne oedd canolfan Prifysgol Paris trwy gydol yr oesoedd hyn.

Dan agenda gwrth-grefyddol y Chwyldro Ffrengig, cafodd y Sorbonne ei ddarostwng a'i gau ym 1793. Prifysgol Paris oedd un o sawl sefydliad Ffrengig a drawsnewidwyd yn oes Napoleon, a'i ad-drefnu'n un o academïau Prifysgol Ffrainc ym 1808. Yn y cyfnod 1808–85, y Sorbonne oedd canolfan y tair cyfadran ddiwinyddol ac Académie de Paris. Crewyd cyngor cyffredinol o adrannau'r brifysgol, dan lywyddiaeth rheithor, ym 1885. Trodd y brifysgol yn sefydliad seciwlar tua diwedd y 19eg ganrif: diddymwyd y gyfadran ddiwinyddiaeth ym 1886 a daeth y Sorbonne yn ganolfan y gwyddorau a llenyddiaeth. Diddymwyd Prifysgol Ffrainc ym 1896, ac ail-sefydlwyd Prifysgol Paris yn brifysgol gyhoeddus dan gyfundrefn ganolog y Weinyddiaeth Hyfforddiant Cyhoeddus (heddiw y Weinyddiaeth Addysg Genedlaethol).

Yn yr 20fed ganrif, datblygodd Prifysgol Paris yn ganolfan gwyddonol o fri ac yn gartref i 600 o athrawon cadeiriog. Y Sorbonne oedd canolbwynt terfysg 1968 pan drodd protestiadau'r myfyrwyr yn argyfwng cenedlaethol. Yn sgil y Ddeddf Gyfeiriadu (1968) a diwygiadau'r system addysg uwch yn Ffrainc, cafodd Brifysgol Ffrainc ym 1970 ei ad-drefnu'n 13 o brifysgolion ar wahân, a elwir gyda'i gilydd yn Universités de Paris I à XIII. Lleolir nifer o swyddfeydd, darlithfeydd, ac ystafelloedd y prifysgolion newydd yn hen adeiladau'r Sorbonne yn ogystal â rheithoriaeth y I à XIII a cholegau eraill.

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
The article is a derivative under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License. A link to the original article can be found here and attribution parties here. By using this site, you agree to the Terms of Use. Gpedia Ⓡ is a registered trademark of the Cyberajah Pty Ltd.