Urdd (anrhydedd)

Neidio i: llywio, chwilio

Anrhydedd a roddir am deilyngdod gan wlad, teulu brenhinol, llu milwrol, eglwys, neu sefydliad arall yw urdd. Urddau mynachaidd a marchogol yr Oesoedd Canol oedd sail yr urddau modern. Yn ystod y Dadeni, dechreuodd brenhinoedd Ewrop sefydlu urddau sifil i anrhydeddu deiliaid bonheddig. Mae'n debyg taw'r Légion d'honneur Ffrengig, a sefydlwyd gan Napoleon ym 1802, oedd yr urdd teilyngdod gyntaf i wobrwyo dinasyddion o bob haen cymdeithas. Lledodd yr arfer hon ar draws gwledydd Ewrop yn y 19eg ganrif, weithiau gan fabwysiadu'r hen eirfa a thraddodiadau o hanes y wlad, e.e. Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, sy'n parháu i urddo ddynion yn farchogion. Yn oes y genedl-wladwriaeth, mae'r mwyafrif o lywodraethau yn defnyddio urddau cenedlaethol i gydnabod ac anrhydeddu dinasyddion ac weithiau tramorwyr.

ODM stub icon.svg Eginyn erthygl sydd uchod am urdd, anrhydedd neu fedal. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
The article is a derivative under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License. A link to the original article can be found here and attribution parties here. By using this site, you agree to the Terms of Use. Gpedia Ⓡ is a registered trademark of the Cyberajah Pty Ltd.