Veve

Neidio i: llywio, chwilio

Mae Veve (hefyd Vévé neu Vevé) yn symbol crefyddol a ddefnyddir yn aml mewn gwahanol enwadau o fwdw (hefyd voodoo neu voudou) megis Vodou Haiti. Maent yn wahanol i'r patipembas (arwyddysgrifau neu luniau) a ddefnyddir ym Mhalo a'r ponto riscados a ddefnyddir yn Quimbanda gan eu bod yn grefyddau Affricanaidd ar wahân i'w gilydd. Mae veves yn actio fel "begynau" i'r Lwa ac yn gynrychioliad gweledol ohonynt yn ystod defodau.

Hanes

Mae'r hanes yn wrthdrawiadol ac ni wyddys llawer amdano. Un gred yw eu bod yn tarddu o gredoau'r Taíno brodorol. Cred gyffredin arall yw eu bod yn tarddu o gosmolun pobl y Congo.

Swyddogaeth

Yn ôl Milo Rigaud, "The veves represent figures of the astral forces... In the course of Vodou ceremonies, the reproduction of the astral forces represented by the veves obliges the loas... to descend to earth."[1]

Mae gan bob lwa ei veve unigryw ei hun, er bod gwahaniaethau rhanbarthol wedi arwain at veves gwahanol i'r un lwa mewn rhai o achosion. Caiff aberthiadau ac offrymau eu gosod arnynt, fel arfer ar ffurf bwydydd a diodydd.

Creu'r veves

Wrth berfformio defod, crëir y veves drwy ei dynnu ar y llawr gyda blawd/cornmeal, rhisgl mân, powdr briciau cochion, neu'r du bach (gwnpowdr), er bod y sylwedd yn dibynnu'n llwyr ar y ddefod. Mewn Vodou Haiti, defnyddir cymysgedd o flawd/cornmeal a ludw coed.

Enghreifftiau

Cyfeiriadau

  1. Milo Rigaud, Secrets of Voodoo, City Lights, NY, 1969

Dolenni allanol

Gweler hefyd

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Nodyn:Afro-American Religions

The article is a derivative under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License. A link to the original article can be found here and attribution parties here. By using this site, you agree to the Terms of Use. Gpedia Ⓡ is a registered trademark of the Cyberajah Pty Ltd.