Azrou
| Math | urban commune of Morocco |
|---|---|
| Poblogaeth | 40,808, 47,540, 54,350, 57,657 |
| Gefeilldref/i | Blois |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Talaith Ifrane |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 1,330 metr |
| Cyfesurynnau | 33°N 5°W |


Dinas ym Moroco yw Azrou (Arabeg: أزرو), a leolir 89 cilometr i'r de o Fez, yn rhanbarth Meknès-Tafilalet. Poblogaeth: tua 60,000 (amcangyfrif 2004).
Berberiaid yw mwyafrif y trigolion gyda llawer ohonynt yn siarad Berbereg fel mamiaith. Nodweddir canol y ddinas gan doau o deils gwyrdd. Amgylchynir Azrou gan goedwigoedd pinwydd a chedrwydd sy'n enwog ym Moroco.
Yn gorwedd yn yr Atlas Canol, rhwng Meknès, Fez, Ifrane, Midelt a Khenifra, cysylltir Azrou a Meknès, i'r gogledd, gan y ffordd N13.
Dolenni allanol
- (Arabeg) (Ffrangeg) Gwefan Azrou
- (Ffrangeg) Fforwm dinesyddion Azrou Archifwyd 2011-07-25 yn y Peiriant Wayback