Briog
| Briog | |
|---|---|
| Ganwyd | 409 Ceredigion |
| Bu farw | 502 Sant-Brieg |
| Man preswyl | Ceredigion |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | offeiriad Catholig, esgob Catholig |
| Blodeuodd | 5 g |
| Swydd | abad |
| Dydd gŵyl | 1 Mai |
Sant o Gymru o'r 6g sy'n bennaf gysylltiedig â Llydaw oedd Briog, Llydaweg: Brieg, Lladin:Briomaglus.
Bywgraffiad
Yn ôl ei fuchedd, a ysgrifennwyd yn yr 11g, ganwyd Briog yng Ngheredigion, Cafodd ei dad, Cerp, a'i fam, Eldruda, weledigaeth cyn iddo gael ei eni, a daethant yn Gristionogion. Dywedir iddo gael ei yrru i ddinas Paris lle cafodd addysg gan sant Garmon a'i ordeinio yn offeiriad.
Dychwelodd i Geredigion am gyfnod cyn symud i Lydaw, lle sefydlodd fynachlog yn Tréguier, yna fynachlog arall yn Sant-Brieg (Ffrangeg:St. Brieuc) a dyfodd yn esgobaeth. Mae Briog yn un o Saith Sant-sefydlydd Llydaw. Yng Nghymru, mae eglwys Llandyfriog yng Ngheredigion wedi ei chysegru iddo. Ceir lleoedd yn dwyn ei enw mewn rhannau eraill o Lydaw, ac yng Nghernyw, ac mae tref o'r enw Saint Brieux yn Saskatchewan, Canada.
Ei wylmabsant yw 1 Mai.