De Swdan
| Gweriniaeth De Swdan | |
| Arwyddair | Cyfiawnder, Rhyddid, Ffyniant |
|---|---|
| Math | gwladwriaeth sofran, gwlad dirgaeedig, gwlad |
| Prifddinas | Juba |
| Poblogaeth | 12,575,714 |
| Sefydlwyd | 9 Gorffennaf 2011 (Annibyniaeth oddi wrth Swdan) |
| Anthem | South Sudan Oyee! |
| Pennaeth llywodraeth | Salva Kiir Mayardit |
| Cylchfa amser | UTC+2, Africa/Juba |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg, Arabeg |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Dwyrain Affrica, Affrica |
| Arwynebedd | 644,329 km² |
| Yn ffinio gyda | Swdan, Ethiopia, Cenia, Wganda, Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, Gweriniaeth Canolbarth Affrica, Y Cynghrair Arabaidd |
| Cyfesurynnau | 7°N 30°E |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff deddfwriaethol | Deddfwrfa Cenedlaethol De Swdan |
| Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd De Swdan |
| Pennaeth y wladwriaeth | Salva Kiir Mayardit |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Arlywydd De Swdan |
| Pennaeth y Llywodraeth | Salva Kiir Mayardit |
| Arian | Punt De Swdan |
| Canran y diwaith | 12.642, 14.204, 13.868, 12.395 |
| Cyfartaledd plant | 5.022 |
| Mynegai Datblygiad Dynol | 0.385 |
Gwlad yn nwyrain Affrica yw De Swdan. Fe'i sefydlwyd yn 2005 fel rhanbarth ymreolaethol a gynhwysodd deg talaith yn ne Swdan. Daeth y rhanbarth yn wladwriaeth annibynnol ar 9 Gorffennaf 2011.[1] Mae'n ffinio â Gweriniaeth Canolbarth Affrica i'r gorllewin, Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo i'r de-orllewin, Wganda i'r de, Cenia i'r de-ddwyrain ac Ethiopia i'r dwyrain. Juba, ar lannau Afon Nîl Wen, yw'r brifddinas a'r ddinas fwyaf.
Cristnogaeth ac Animistiaeth yw'r prif grefyddau yn Ne Swdan yn hytrach nag Islam, y brif grefydd yn y gweddill o Swdan. Mae gwrthryfelwyr wedi ymladd dau ryfel cartref yn erbyn llywodraeth Swdan, o 1955 hyd 1972 ac o 1983 hyd 2005. Sefydlwyd y rhanbarth ymreolaethol yn 2005 yn sgîl cytundeb heddwch rhwng llywodraeth Swdan a SPLA/M, y grŵp mwyaf o wrthryfelwyr. Pleidleisiodd De Swdan dros annibyniaeth mewn refferendwm yn Ionawr 2011.[2]

Cyfeiriadau
- ↑ BBC (8 Gorffennaf 2011). South Swdan becomes an independent nation. Adalwyd ar 8 Gorffennaf2011.
- ↑ BBC (30 Ionawr 2011). South Swdan referendum: 99% vote for independence. Adalwyd ar 30 Ionawr 2011.