Estrys
| Estrys Amrediad amseryddol: | |
|---|---|
| Ceiliog (chwith) a iâr (de), Penrhyn Gobaith Da, De Affrica. | |
| Statws cadwraeth | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Struthioniformes |
| Teulu: | Struthionidae |
| Genws: | Struthio |
| Rhywogaeth: | S. camelus |
| Enw deuenwol | |
| Struthio camelus Linnaeus, 1758 | |
| Dosbarthiad yr is-rywogaethau | |
Aderyn dihediad, buandroed a mwyaf y byd yw'r estrys (Struthio camelus), sy'n perthyn i urdd o adar a elwir yn Struthioniformes. Mae'r oedolyn yn 2.5 medr o daldra ac mae'n pwyso 115 cilogram.[1] Mae ganddo wddf noeth hir a choesau hir ac mae gan ei draed ddau fys. Mae'n methu hedfan ond mae'n gallu rhedeg yn gyflym iawn.[1] Mae'r gwryw'n ddu gydag esgyll gwyn a chynffon wen; mae plu'r fenyw'n llwydfrown.[2]
Mae'r estrys yn bwydo ar weiriau, hadau, ffrwythau a dail.[1] Fe'i ceir mewn safana a lled-anialwch yn Affrica.[1] Ystyrir yr is-rywogaeth S. c. molybdophanes (estrys Somalia) o Gorn Affrica yn rhywogaeth wahanol gan rai dacsonomyddion.[3]
Cyfeiriadau
- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 Christopher Perrins, gol., The New Encyclopedia of Birds (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2004).
- ↑ Ian Sinclair a Peter Ryan, Birds of Africa South of the Sahara (Tref y Penrhyn: Struik, 2003).
- ↑ Kathryn Hennessey a Victoria Wiggins, gol., The Natural History Book (Llundain: Dorling Kindersley, 2010).
Dolenni allanol
- (Saesneg) Internet Bird Collection: Ostrich Archifwyd 2012-11-02 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg) World Ostrich Association Archifwyd 2013-07-19 yn y Peiriant Wayback
