Gestapo
| Enghraifft o: | heddlu cudd, political police |
|---|---|
| Daeth i ben | 8 Mai 1945 |
| Dechrau/Sefydlu | 26 Ebrill 1933 |
| Rhagflaenwyd gan | Prussian Secret Police |
| Sylfaenydd | Hermann Göring |
| Rhagflaenydd | Prussian Secret Police |
| Rhiant sefydliad | Reich Main Security Office |
| Pencadlys | Prinz-Albrecht-Palais |
| Enw brodorol | Gestapo |


Heddlu cudd swyddogol yr Almaen Natsïaidd oedd y Gestapo (talfyriad o Geheime Staatspolizei: "Heddlu'r Wladwriaeth Gudd"). Gan ddechrau ym mis Ebrill 1934, roedd y sefydliad o dan weinyddiaeth y Schutzstaffel o dan arweiniad Heinrich Himmler, sef arweinydd yr SS a Phennaeth yr Heddlu Almaenig (Chef der Deutschen Polizei). O fis Medi 1939 ymlaen, gweinyddwyd y Gestapo gan y Reichssicherheitshauptamt (RSHA) ("Prif Swyddfa Diogelwch y Reich") a chawsai ei ystyried yn chwaer sefydliad i'r Sicherheitsdienst (SD) ("Gwasanaeth Diogelwch") ac yn is-swyddfa i'r Sicherheitspolizei (SIPO) ("yr heddlu diogelwch").