Inis
| Math | tref sirol |
|---|---|
| Poblogaeth | 24,253 |
| Gefeilldref/i | Phoenix |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Swydd Clare |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 3 ±1 metr |
| Cyfesurynnau | 52.8463°N 8.9807°W |

Prif dref Swydd Clare yn nhalaith Munster, Gweriniaeth Iwerddon yw Inis[1] (Saesneg: Ennis). Saif ar Afon Fergus, i'r gogledd o Limerick ac i'r de o Galway, ar y briffordd N18. Yr enw llawn gwreiddiol oedd Inis Cluain Ramh Fhada ("Ynys y Rhwyfo Hir"). Saif o fewn 12 milltir i Faes Awyr Shannon. Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 24,253.
Tyfodd Inis o amgylch yr abaty Ffransiscaidd, a sefydlwyd tua 1242. Ceir Eglwys gadeiriol Sant Pedr a Sant Paul yma hefyd. Mae'n ganolfan bwysig i gerddoriaeth draddodiadol Iwerddon, a chynhelir gwyl gerddorol y Fleadh Nua yma'n flynyddol tua diwedd Mai.
Ceir cofgolofn yma i Daniel O'Connell, oedd yn frodor o'r dref.
Cyfeiriadau
- ↑ "Placenames Database of Ireland", logainm.ie; adalwyd 10 Hydref 2022