Jeremy Miles
| Jeremy Miles AS | |
|---|---|
Llun swyddogol, 2024 | |
| Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Iaith Gymraeg | |
| Mewn swydd 21 Mawrth 2024 – 16 Gorffennaf 2024 | |
| Prif Weinidog | Vaughan Gething |
| Rhagflaenwyd gan | Vaughan Gething (Economi) Ei hun (Iaith Gymraeg) |
| Gweinidog Pontio Ewropeaidd | |
| Mewn swydd 13 Rhagfyr 2018 – 13 Mai 2021 | |
| Prif Weinidog | Mark Drakeford |
| Rhagflaenwyd gan | Mark Drakeford |
| Aelod o Senedd Cymru dros Gastell-nedd | |
Deiliad | |
| Cychwyn y swydd 6 Mai 2016 | |
| Prif Weinidog | Mark Drakeford |
| Rhagflaenwyd gan | Gwenda Thomas |
| Mwyafrif | 2,923 (11.5%) |
| Gweinidog y Gymraeg | |
Deiliad | |
| Cychwyn y swydd 13 Mai 2021 | |
| Prif Weinidog | Mark Drakeford |
| Rhagflaenwyd gan | Eluned Morgan |
| Gweinidog Addysg | |
Deiliad | |
| Cychwyn y swydd 13 Mai 2021 | |
| Prif Weinidog | Mark Drakeford |
| Rhagflaenwyd gan | Kirsty Williams |
| Manylion personol | |
| Cenedl | |
| Plaid wleidyddol | Llafur Cymru |
| Cabined | Cwnsler Cyffredinol Cymru |
| Gwefan | jeremymiles.cymru |
Gwleidydd Llafur Cymru yw Jeremy Miles sydd wedi cynrychioli etholaeth Castell-nedd yn Senedd Cymru ers etholiad 2016.[1]
Addysg
Addysgwyd Jeremy yn Ysgol Gyfun Ystalyfera, ac astudiodd y gyfraith yng Ngoleg Newydd, Rhydychen. Tra yn fyfyriwr, roedd yn aelod o Gymdeithas Dafydd ap Gwylim
Gyrfa wleidyddol
Dewiswyd Miles fel ymgeisydd newydd Llafur Cymru dros etholaeth Castell-nedd ar gyfer etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2016 yn dilyn ymddeoliad yr aelod blaenorol Gwenda Thomas.[2] Ar 5 Mai 2016, cafodd ei hethol yn Aelod Cynulliad; derbyniodd 9,468 o'r 25,363 pleidlais a fwriwyd (37.3%).[3]
Fe'i enwebwyd yn Cwnsler Cyffredinol Cymru ar 3 Tachwedd 2017 gan y Prif Weinidog Carwyn Jones. Cadarnhawyd y swydd drwy bleidlais ar 14 Tachwedd 2017
Ym Mawrth 2018, cyflwynodd ddeddfwriaeth ddrafft a fyddai'n creu cyfundrefn i ddatblygu llyfr statud o Gyfraith Gyfoes Cymru, a fyddai'n gwneud Cymru y cyntaf o wledydd Prydain i drefnu ei chyfreithiau yn y ffordd yma. Byddai'r llyfr statud yn cael ei gynllunio i wella hygyrchedd i Ddeddfau Cymru ar gyfer cyfreithwyr a'r boblogaeth yn gyffredinol.[4]
Bywyd personol
Mae Miles yn un o'r tri aelod hoyw agored cyntaf o Gynulliad Cymru ar ei etholiad yn 2016.[1]
Cyfeiriadau
- ↑ 1.0 1.1 AC hoyw neu lesbiaidd: 'Carreg filltir mewn democratiaeth' , BBC Cymru Fyw, 6 Mai 2016. Cyrchwyd ar 9 Mai 2016.
- ↑ Martin Shipton. Economy Minister Edwina Hart and former deputy minister Gwenda Thomas to stand down as AMs at next Assembly elections , Wales Online, 19 Mehefin 2015. Cyrchwyd ar 9 Mai 2016.
- ↑ Castell-nedd Etholaeth (Cynulliad). BBC Cymru Fyw. Adalwyd ar 9 Mai 2016.
- ↑ Wales bill set to overhaul legislation (26 Mawrth 2018). Adalwyd ar 16 Ionawr 2019.