Jotunheimen
| Math | cadwyn o fynyddoedd |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Jotunheim |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Norwy |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 3,500 km² |
| Uwch y môr | 2,469 metr |
| Cyfesurynnau | 61.63°N 8.3°E |
| Cadwyn fynydd | Scandinavian Mountains |
Mae Jotunheimen yn gadwyn o fynyddoedd uchel ac anghysbell yn ne canolbarth Norwy. Mae'r gadwyn yn cyrraedd ei phwynt uchaf yn Glitterinden (2472m neu 8110 troedfedd), y mynydd uchaf yn Norwy.
Mae'r rhan fwyaf o'r mynyddoedd yn gorwedd yn y parc cenedlaethol o'r un enw.
Chwedloniaeth
Ystyr llythrennol yr enw Jotunheimen (Hen Norseg Jötunheim) yw "Cartref (neu wlad) y Cewri" (jötun "cewri" + heim(en) "cartref, trigfa"). Ym mytholeg y Llychlynwyr mae'n gartref i'r cewri. Fe'i sefydlwyd gan y cawr cyntefig Börr ar ôl i'r cewri cyntaf gael eu gorchfygu gan y duwiau Llychlynaidd. Yno mae "Cewri'r Rhew" yn byw ac mae duwiau ac arwyr fel Odin, Loki a Thor yn mynd yno i geisio gwybodaeth neu drysor. Pennaeth cewri Jotunheimen yw Geirrod. Er bod y cewri'n fawr a nerthol mae'r duwiau ac arwyr yn eu trechu nhw bob tro, naill ai trwy hud neu, yn amlach, trwy eu cyfrwysdra.
