Kyphi

Aa9
p Z7
D12
Z2ss
,
V31G1R5p
X1
,
Aa7p
Z7
N38
kp.t
Tacso: gronynnau, arogldarth
yn hieroglyffau

Mae kyphi yn arogldarth cyfansawdd a ddefnyddiwyd yn yr Hen Aifft er pwrpasau crefyddol a meddygol.

Gair

Mae'r gair kyphi yn tarddu o'r gair Groeg κυ̑φι am y gair Hen Eiffteg "kap-t", arogldarth, o "kap", persawru, arogldarthu, cynhesu, llosgi, cynnau.[1][2] Mae bôn y gair hefyd i'w weld mewn ieithoedd Indo-Ewropeaidd, gydag ystyr tebyg, fel yn Sansgritaeg कपि (kapi) "arogldarth", Groeg καπνός "ysmygu", a Lladin "vapor".[3][4]

Hanes

Yn ôl Plutarch (De Iside et Osiride) a Suidas (s. v. Μανήθως), ysgrifennodd yr offeiriad Eifftaidd Manetho (circa 300 CCC) draethawd dan y teitl "I baratoi kyphi" (Περὶ κατασκευη̑ϛ κυφίων), ond nid oes yr un copi'n bodoli bellach.[5][6] Mae tair rysáit kyphi Eifftaidd i'w gweld o gyfnod Ptolemaidd ar waliau teml Edfu a Philae.[7]

Cofnodwyd ryseitiau kyphi Groegaidd gan Dioscorides (De Materia Medica, I, 24), Plutarch (De Iside et Osiride, § 80) a Galen (De antidotis, II, 2).[7]

Cofnodwyd y ffisigwr 19g Paulus Aegineta kyphi "lleuadaidd" sy'n cynnwys wyth cynhwysyn ar hugain a kyphi "heulol" sy'n cynnwys chwe chynhwysyn ar ddeg ar hugain.[angen ffynhonnell]

Cynhyrchu

Mae gan y ryseitiau Eifftaidd un cynhwysyn ar bymtheg yr un. Mae Dioscorides yn nodi deg cynhwysyn, sy'n gyffredin i bob rysáit. Mae Plutarch yn nodi un cynhwysyn ar bymtheg, ac mae Galen yn nodi pymtheg. Plutarch sy'n awgrymu'r pwysigrwydd mathemategol o un cynhwysyn ar bymtheg.[7]

Mae rhai cynhwysion yn amheus o hyd. Mae ryseitiau Groegaidd yn sôn am aspalathus, a ddisgrifi yn brysgwydden ddreiniog yn ôl awduron Rhufeinig. Nid yw ysgolheigion yng nghytûn ar y planhigyn hwn: awgrymir rhywogaeth o Papilionaceae (Cytisus, Genista neu Spartium).[7] Convolvulus scoparius,[7] a Genista acanthoclada[8] Mae gan y ryseitiau Eifftaidd gynhwysion sydd hefyd yn amheus.

I'w greu, cymysgir a berwir y cynhwysion mewn trefn benodol. Yn ôl Galen, rholir yr arogldarth yn belen a'i osod ar lo poeth i greu perfwg; yfwyd ef hefyd yn feddygaeth i wella'r iau ac ysgyfaint.[7]

Dioscorides (10 cynhwysyn)

  • Mêl
  • Gwin
  • Rhesins
  • Myrr
  • Aeron merywen
  • Ffiled Fair (κύπειρος Groeg)
  • Tyrpant (pinwydd neu resin terebinth, Groeg "ῥητίνη")
  • Aspalathus (Groeg "ἀσπάλαθος")
  • Pergyrs (Hen Eiffteg "kanen", Hebraeg קָנֶה, Groeg κάλαμος, Lladin culmus)
  • Brwynen (Groeg σχοῖνος)

Plutarch (+6 chynhwysyn)

  • Seseli (Groeg σέσελι)
  • Gwm mastig (Groeg σχῖνος)
  • Bitwmen
  • Dail melys
  • Cardamom
  • Aeon meryw bychain (?)

Galen (+5 cynhwysyn)

  • Casia
  • Canel (gellir defnyddio cardamom)
  • Saffron
  • Bdeliwm
  • Nardus

Eifftaidd (+6 chynhwysyn)

Cyfeiriadau

  1. E. A. Wallis Budge (1920), Egytian Hieroglyphic Dictionary, 2, John Murray, p. 786b, http://archive.org/details/egyptianhierogly02budguoft
  2. Heinrich Brugsch (1868), Hieroglyphisch-demotisches Wörterbuch, 4, Hinrich, p. 1492, http://archive.org/details/hieroglyphischde04brug
  3. August Fick (1871), Vergleichendes Wörterbuch der Indogermanischen Sprachen (2nd ed.), Vandenhoek & Ruprecht, p. 52, http://archive.org/details/bub_gb_RQ8AAAAAYAAJ
  4. Monier Williams (1872), A Sanskrit-English Dictionary, Clarendon Press, p. 202a, http://archive.org/details/1872sanskriten00moniuoft
  5. E. A. Wallis Budge (1902), A History of Egypt, 1, Oxford University Press, p. 129, http://archive.org/details/historyofegyptfr01budg
  6. Leonhard Schmitz (1849), William Smith, ed., Dictionary of Greek and Roman Biography and Mythology, 2, Murray, pp. 915a–916a
  7. 7.0 7.1 7.2 7.3 7.4 7.5 Victor Loret (1887), "Le kyphi, parfum sacré des anciens égyptiens", Journal asiatique 10 (juillet-août): 76–132, http://gallica.bnf.fr/ark:/12148/bpt6k93232q
  8. Immanuel Löw (1881), Aramäische Pflanzennamen, Engelmann, p. 341, http://archive.org/details/AramaeischePflanzennamen

Gweler hefyd

  • Ketoret