Lannuon
| Math | cymuned |
|---|---|
| Poblogaeth | 20,525 |
| Pennaeth llywodraeth | Paul Le Bihan |
| Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
| Gefeilldref/i | Caerffili, Günzburg, Viveiro |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Aodoù-an-Arvor, arrondissement of Lannion |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 43.91 km² |
| Uwch y môr | 107 metr, 0 metr |
| Yn ffinio gyda | Kaouenneg-Lanvezeeg, Louaneg, Pleuveur-Bodoù, Ploubêr, Ploulec'h, Rospezh, Sant-Ke-Perroz, Tonkedeg, Trebeurden |
| Cyfesurynnau | 48.7325°N 3.4553°W |
| Cod post | 22300 |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Lannuon |
| Pennaeth y Llywodraeth | Paul Le Bihan |

Cymuned a thref ar arfordir gogleddol Llydaw yw Lannuon (Ffrangeg: Lannion). Saif yn département Aodoù-an-Arvor (Côtes-d'Armor) a région Bretagne. Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 19,459.
Ffurfiwyd y gymuned presennol yn 1961, pan unwyd communes Lannion, Brélévenez, Buhulien, Loguivy-lès-Lannion a Servel. Saif y dref ger aber afon Léguer. Derbyniodd cyngor y dref y siarter ieithyddol Ya d'ar brezhoneg yn 2006, ac yn 2008 roedd 12.2% o'r disgyblion ysgol gynradd yn derbyn addysg ddwyieithog.