Lloegr
| England | |
| Math | gwledydd y Deyrnas Unedig |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Angliaid, tir |
| Prifddinas | Llundain |
| Poblogaeth | 53,012,456, 57,106,398 |
| Anthem | God Save the King |
| Pennaeth llywodraeth | Keir Starmer |
| Cylchfa amser | Amser Cymedrig Greenwich |
| Nawddsant | Siôr |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg |
| Daearyddiaeth | |
| Arwynebedd | 130,278 km² |
| Yn ffinio gyda | Yr Alban, Cymru |
| Cyfesurynnau | 53°N 1°W |
| Cod SYG | E92000001 |
| GB-ENG | |
| Swydd pennaeth y wladwriaeth | teyrn y Deyrnas Unedig |
| Pennaeth y wladwriaeth | Charles III |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog y Deyrnas Unedig |
| Pennaeth y Llywodraeth | Keir Starmer |
| Arian | punt sterling |
Gwlad ar Ynys Prydain yng ngogledd orllewin Ewrop yw Lloegr (Saesneg: England). Yn ddaearyddol, ac o ran poblogaeth, hi yw'r wlad fwyaf o fewn y Deyrnas Unedig. Mae'n ffinio â Chymru i'r gorllewin a'r Alban i'r gogledd.
Yn y 6ed a'r 7g cyrhaeddodd llwythau Tiwtonaidd (a gynhwysai yn ôl traddodiad yr Eingl, Sacsoniaid, a Jutiaid) Brydain o dir mawr Ewrop a gwladychu de a dwyrain yr ynys gan yrru'r brodorion o Geltiaid tua'r gorllewin ac i'r ardaloedd llai ffrwythlon; arhosodd eraill ac fe'u hymgorfforwyd o fewn cymdeithas y goresgynnwyr.
Ymledodd rheolaeth y Saeson cynnar o dipyn i beth tua'r gorllewin a'r gogledd gan greu nifer o deyrnasoedd fel Wessex, Mersia, Essex, Sussex, a Northumbria. Colli eu hiaith a'u harferion bu hanes y Brythoniaid a oroesodd yn yr ardaloedd hynny. Ond Wessex oedd yr unig un i gadw ei hannibyniaeth ar ôl goresgyniadau'r Llychlyniaid yn yr 8fed a'r 9g, a theyrnas Wessex fu sail teyrnas Lloegr a'r Deyrnas Unedig wedyn.
Nawddsant Lloegr: Sant Siôr - 23 Ebrill.
Rhanbarthau Lloegr
- Prif: Rhanbarthau Lloegr
Mae naw rhanbarth yn Lloegr:
- Llundain Fwyaf
- De-ddwyrain Lloegr
- De-orllewin Lloegr
- Gorllewin Canolbarth Lloegr
- Gogledd-orllewin Lloegr
- Gogledd-ddwyrain Lloegr
- Swydd Efrog a'r Humber
- Dwyrain Canolbarth Lloegr
- Dwyrain Lloegr

Gweler hefyd
| ||||||||||||||
