Luc
| Luc | |
|---|---|
Miniatur o Luc yn llyfr oriau Anna, Duges Llydaw (1503–8) gan Jean Bourdichon | |
| Ganwyd | Unknown Antiochia |
| Bu farw | 84 Thebes |
| Galwedigaeth | meddyg, arlunydd, llenor, y Pedwar Efengylydd, eiconograffwr, efengylwr |
| Blodeuodd | 1 g |
| Swydd | Apostol |
| Adnabyddus am | Yr Efengyl yn ôl Luc, Actau'r Apostolion |
| Dydd gŵyl | 18 Hydref |
Sant Cristnogol oedd Luc (o'r Groeg Λουκᾶς, Loukás), un o'r pedwar Efengylydd ynghyd â Mathew, Marc a Ioan. Yn ôl traddodiad ef oedd awdur yr Efengyl yn ôl Luc ac Actau'r Apostolion, dau o lyfrau'r Testament Newydd. Dethlir ei ddydd gŵyl ar 18 Hydref.
Mae bron y cyfan a wyddom am Luc yn dod o'r Testament Newydd. Yn ôl Llythyr Paul at y Colosiaid (4:14) roedd yn feddyg, a honir o Col. 4:11 ei fod yn Roegwr; mae natur idiomatig ei iaith yn ategu'r ddamcaniaeth hon. Roedd yn ddisgybl i'r apostol Paul ac yn gydymaith iddo ar ei deithiau i wlad Groeg a Rhufain. Honir ei fod wedi pregethu yn yr Aifft a gwlad Groeg wedi marwolaeth Paul. Ef yw nawddsant meddygon ac arlunwyr. Ych adeiniog yw ei symbol.
Yn 356–7 OC trosglwyddwyd ei greiriau o Thebes i Gaergystennin, a phan adeiladwyd eglwys yr Apostoleion yn y ddinas honno fe'i harddongoswyd yno. Mae traddodiad hwyrach bod Luc wedi bod yn arlunydd, ac ei fod wedi peintio portread y Forwyn Fair. Yn yr oesoedd canol, priodolwyd peintiad o Fair yn eglwys Santa Maria Maggiore yn Rhufain iddo.
|
Eglwysi cysegredig i Luc yng Nghymru
- Hen eglwys Sant Luc, Cwmbwrla, Abertawe
- Eglwys Sant Luc, Treganna, Caerdydd
- Hen eglwys Sant Luc, Abercarn, Caerffili (1923–6; Gradd II*)[1]
- Hen eglwys Sant Luc, Y Porth, Cwm Rhondda
- Eglwys Sant Luc, Gellideg, Merthyr Tudful
- Eglwys Sant Luc, Cilfynydd, Pontypridd
- Eglwys Sant Luc, Cwmdâr, Rhondda Cynon Taf
- Eglwys Sant Luc, Rhydyfelin, Rhondda Cynon Taf
- Eglwys Sant Luc, Llanllwni, Sir Gaerfyrddin
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
- ↑ (Saesneg) Church of St Luke, Abercarn. British Listed Buildings. Adalwyd ar 29 Medi 2015.

