Marche
| Math | rhanbarthau'r Eidal |
|---|---|
| Prifddinas | Ancona |
| Poblogaeth | 1,522,608 |
| Pennaeth llywodraeth | Francesco Acquaroli |
| Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 9,694 km² |
| Uwch y môr | 343 metr |
| Gerllaw | Môr Adria |
| Yn ffinio gyda | Emilia-Romagna, Toscana, Umbria, Lazio, Abruzzo |
| Cyfesurynnau | 43.32°N 13°E |
| IT-57 | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff gweithredol | Llywodraeth Marche |
| Corff deddfwriaethol | Cyngor Rhanbarthol Marche |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | arlywydd Marche |
| Pennaeth y Llywodraeth | Francesco Acquaroli |
Rhanbarth yng nghanolbarth yr Eidal yw Marche. Ancona yw'r brifddinas; dinasoedd eraill yw Pesaro a Fano.
Mae Marche yn ffinio ar ranbarth Emilia-Romagna a gweriniaeth San Marino yn y gogledd, Toscana yn y gogledd-orllewin, Umbria yn y gorllewin ac Abruzzo a Lazio yn y de. Yn y dwyrain mae'r Môr Adriatig.
Yn y cyfnod Rhyfeinig, adwaenid yr ardal fel Picenum. Trigai llwyth Galaidd y Senones ger yr arfordir. Daw'r enw presennol o le marche de Ancona, ac mae'n lluosog.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y rhanbarth boblogaeth o 1,541,319.[1]

Rhennir y rhanbarth yn bum talaith a enwir ar ôl eu canolfannau gweinyddol, sef:
- Ancona
- Ascoli Piceno
- Fermo
- Macerata
- Pesaro ac Urbino (Pesaro yw'r ganolfan weinyddol)

Cyfeiriadau
- ↑ City Population; adalwyd 23 Rhagfyr 2020
| |||||||