Max Stirner
| Max Stirner | |
|---|---|
| Ffugenw | Max Stirner |
| Ganwyd | Johann Caspar Schmidt 25 Hydref 1806 Bayreuth |
| Bu farw | 26 Mehefin 1856, 25 Mehefin 1856 o Brathau a phigiadau pryfed Berlin |
| Dinasyddiaeth | Teyrnas Bafaria |
| Addysg | athro prifysgol mewn athroniaeth |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | athronydd, newyddiadurwr, cyfieithydd, llenor, addysgwr, athro prifysgol mewn athroniaeth, gymnasial teacher |
| Adnabyddus am | The Ego and Its Own |
| Prif ddylanwad | Georg Hegel, Ludwig Feuerbach, Bruno Bauer, Adam Smith, Jean-Baptiste Say, Johann Gottlieb Fichte |
| Mudiad | Ethical egoism, egoist anarchism, Unigolyddiaeth, solipsism, Young Hegelians |
| Priod | Marie Dähnhardt |
| llofnod | |
Athronydd o'r Almaen oedd Max Stirner (Johann Kaspar Schmidt; 25 Hydref 1806 – 26 Mehefin 1856) sy'n nodedig am ei syniadaeth wrth-wladolaidd a gafodd ddylanwad pwysig ar anarchiaeth yn niwedd y 19g a dechrau'r 20g a hefyd ar ddirfodaeth. Ei brif waith ydy'r llyfr Der Einzige und sein Eigentum (1844).
Bywgraffiad
Ganwyd Johann Kaspar Schmidt yn Bayreuth, Bafaria, ar 25 Hydref 1806. Astudiodd ddiwinyddiaeth, ieitheg, ac athroniaeth ym Mhrifysgol Friedrich Wilhelm, Berlin, ac yno mynychodd ddarlithoedd Georg Wilhelm Friedrich Hegel a gafodd ddylanwad mawr arno. Symudodd yn ddiweddarach i Brifysgol Erlangen.
Dychwelodd i Ferlin a gweithiodd yn athro mewn ysgol baratoi i ferched. Bu'n briod ddwywaith: i Agnes Burtz, o 1837 nes ei marwolaeth yn 1838, ac i Marie Dähnhardt o 1843 nes ysgariad yn 1846. Defnyddiodd gyfoeth ei ail wraig i ymddiswyddo a throi ei sylw at roi ei athroniaeth dan glawr. Yn y cyfnod hwn cyflawnodd ei gampwaith, Der Einzige und sein Eigentum, a gyhoeddwyd yn 1844 dan y ffugenw Max Stirner. Defnyddiodd arian ei wraig hefyd i hapfuddsoddi yn y diwydiant llaeth, ac o ganlyniad fe'i carcharwyd am fethu talu ei ddyledion. Dyma'r ymddygiad a berodd i Marie gael ysgariad oddi wrtho.
Wedi hynny, enillodd ei damaid yn gyfieithydd, ac efe wnaeth drosi The Wealth of Nations gan Adam Smith i'r Almaeneg. Cyfranodd erthyglau at y cyfnodolyn rhyddfrydol Rheinische Zeitung.[1] Bu farw ym Merlin ar 26 Mehefin 1856 yn 49 oed, wedi iddo gael ei frathu gan bryf gwenwynig.
Cyfeiriadau
- ↑ (Saesneg) Max Stirner. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 22 Medi 2019.