Meini Harold
| Math | aliniad cerrig |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Sir Fynwy |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 51.742749°N 2.726595°W |
| Cod OS | SO4993005140 |
| Statws treftadaeth | heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
| Manylion | |
| Dynodwr Cadw | MM017 |
Cyfres o dri maen hir cynhanesyddol yw Meini Harold (Saesneg: Harold's Stones) sy'n sefyll mewn cae ar gwr pentref Tryleg, Sir Fynwy.
Gosodwyd y meini mewn llinelliad rhywbryd yn ystod Oes yr Efydd, yn ôl pob tebyg. Mae eu pwrpas yn ddirgelwch. Er mai dim ond tri o feini sy'n sefyll heddiw, awgrymir y buont yn rhan o linelliad fwy sylweddol yn y gorffennol. Ceir "marciau cwpan" (cupmarks), chwedl yr archaeolegwyr, wedi'u cerfio ar ymyl ddeheuol y garreg ganol.[1]
Mae'n gred boblogaidd fod y pentref wedi ei enwi ar ôl y meini hyn (Trellech yw un o'r ffurfiau amgen ar enw'r pentref).
Cyfeiriadau
- ↑ Christopher Houlder, Wales: an Archaeological Guide (Faber and Faber, 1978), t.139