Mombasa
| Math | dinas, dinas â phorthladd, dinas fawr |
|---|---|
| Poblogaeth | 1,200,000, 1,208,333 |
| Sefydlwyd | |
| Cylchfa amser | UTC+03:00 |
| Gefeilldref/i | |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Sir Mombasa |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 294.7 ±0.1 km² |
| Uwch y môr | 50 ±1 metr |
| Cyfesurynnau | 4.05°S 39.67°E |
Ail ddinas Cenia a phrifddinas talaith Pwani yw Mombasa (weithiau Mombassa). Saif ar yr arfordir, yn ne-ddwyrain Cenia. Roedd y boblogaeth yn 1999 yn 665,018, amcangyfrifir ei fod tua 900,000 erbyn 2009.
Saif y ddinas ar ynys, er bod rhai o'r maestrefi ar y tir mawr. Mae'n borthladd pwysig, a hefyd yn ganolfan i dwristiaeth. Nid oes sicrwydd pa bryd y sefydlwyd y ddinas, ond nododd Al-Idrisi yn y 12g ei bod yn ganolfan fasnach bwysig. Galwodd y llynghesydd Tsineaidd Zheng He yma tua 1415, a Vasco da Gama yn 1498.
