Murmansk
| Math | tref neu ddinas, okrug ddinesig |
|---|---|
| Poblogaeth | 267,422 |
| Sefydlwyd | |
| Pennaeth llywodraeth | Andrey Sysoyev |
| Cylchfa amser | UTC+03:00 |
| Gefeilldref/i | Luleå Municipality, Jacksonville, Akureyri, Minsk, Tromsø, Vadsø, Groningen, Alanya, Cuxhaven, Douarnenez, Gomel, Harbin, Pärnu |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Oblast Murmansk |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 168.14 km² |
| Uwch y môr | 50 metr |
| Yn ffinio gyda | Severomorsk Urban Okrug, Kolsky District |
| Cyfesurynnau | 68.9667°N 33.0833°E |
| Cod post | 183000 |
| Pennaeth y Llywodraeth | Andrey Sysoyev |

Dinas yng ngogledd-orllewin Rwsia yw Murmansk (Rwseg: Му́рманск). Saif yn yr Arctig, ar benrhyn Kola, ac mae'n borthladd pwysig. Mae'n brifddinas Oblast Murmansk. Hi yw'r ddinas fwyaf yn yr Arctig; roedd y boblogaeth yn 2007 yn 317,500.
Sefydlwyd y ddinas yn Hydref 1916 fel Romanow-na-Murmane (Романов-на-Мурмане). Yn fuan wedi Chwyldro Chwefror 1917, newidiwyd yr enw i Murmansk. Er ei bod yn yr Arctig, mae dŵr y môr yn gymharol gynnes yma, fel nad yw'r harbwr yn rhewi yn y gaeaf. Mae Murmansk a maesdref Severomorsk yn ganolfan bwysig i lynges Rwsia ac i'w llynges o longau torri rhew, yn cynnwys llongau niwclar.