Omega
| Yr wyddor Roeg | |
|---|---|
| Α α Alffa | Ν ν Nu |
| Β β Beta | Ξ ξ Xi |
| Γ γ Gamma | Ο ο Omicron |
| Δ δ Delta | Π π Pi |
| Ε ε Epsilon | Ρ ρ Rho |
| Ζ ζ Zeta | Σ σ ς Sigma |
| Η η Eta | Τ τ Tau |
| Θ θ Theta | Υ υ Upsilon |
| Ι ι Iota | Φ φ Ffi |
| Κ κ Kappa | Χ χ Chi |
| Λ λ Lambda | Ψ ψ Psi |
| Μ μ Mu | Ω ω Omega |
| Llythrennau Hynafol | |
| Ϝ ϝ Fau | Ϻ ϻ San |
| Ϛ ϛ Stigma | Ϟ ϟ Qoppa |
| Ͱ ͱ Heta | Ϡ ϡ Sampi |
| Ϸ ϸ Sho | |
Omega (priflythyren Ω; llythyren fach ω) yw'r 24ain lythyren, a'r olaf, yn yr wyddor Roeg. Yn y system rhifolion Groegaidd, mae ganddi werth o 800.
Symbolaeth
O ran ei symbolaeth Gristnogol, fel llythyren olaf yr wyddor mae Omega yn cynrychioli Diweddd y byd a darfod y Greadigaeth. Gydag Alffa mae'n ffurfio'r monogram sanctaidd Α-Ω (Alffa-Omega) sy'n cynrychioli'r Mab, ail berson Y Drindod, gan fod Duw yn dweud 'Myfi yw'r Alffa a'r Omega' yn y llyfr Beiblaidd Datguddiad Ioan (Dat. 1:8). Mae'r arwydd Alffa-Omega i'w gweld yn aml mewn eiconograffeg Gristnogol, e.e. mewn eiconau Groeg a Rwsiaidd.