Rholyddion
| Rholyddion | |
|---|---|
| Rholydd bronlelog | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Coraciiformes |
| Teulu: | Coraciidae Rafinesque, 1815 |
| Genws: | Coracias |
| Rhywogaeth: | C. caudatus |
| Genera | |
| |
Teulu o adar ydyw'r Rholyddion (Lladin: Coraciidae; Saesneg: Rollers), sy'n frodorol o Affrica, Ewrop ac Asia (yr Hen Fyd).
Mae'r grŵp yn cael ei enwi'n "Rholyddio" oherwydd y modd acrobatig maen nhw'n perfformio yn ystod paru neu ar deithiau hedfan tiriogaethol. Mae'r Rholeri'n debyg i frain o ran maint ond yn debycach i Leision y dorlan (Alcedo atthis) o ran eu plu lliwgar. Mae dau o fysedd traed blaen y Rholydd wedi'u cysylltu, ond nid yr un allanol.
Pryfaid yw eu prif fwyd, gyda'r rhywogaeth Eurystomus yn cymryd eu hysglyfaeth ar yr adain, ac aelodau'r genws Coracias yn plymio o gangen i ddal eu bwyd o'r ddaear.
Er bod y Rholyddion sy'n fyw heddiw'n byw mewn hinsawdd cynnes yr Hen Fyd, dengys cofnodion ffosil bod Rholyddion yn bresennol yng Ngogledd America yn ystod yr Eosen.[1] Maent yn unweddog (yn cadw'n ffydlon i'w gilydd fel pâr); mewn twll mewn coeden maen nhw'n nythu, neu weithiau mewn wal garreg. Yn y trofannau, mae'r iâr yn dodwy rhwng 2-4 wy ar y tro, ond ceir 3-6 ar y mynyddoedd. Gwyn ydy lliw'r wyau ac maent yn deor ar ôl 17-20 diwrnod. Mae'r cyw yn aros ger y nyth am tua 30 diwrnod wedi hynny.
Rhywogaethau
Rhestr Wicidata:
| teulu | enw tacson | delwedd |
|---|---|---|
| Rholydd | Coracias garrulus | |
| Rholydd Abysinia | Coracias abyssinicus | |
| Rholydd India | Coracias benghalensis | |
| Rholydd adeinbiws | Coracias temminckii | |
| Rholydd asur | Eurystomus azureus | |
| Rholydd bronlelog | Coracias caudatus | |
| Rholydd gyddflas | Eurystomus gularis | |
| Rholydd llwygynffonnog | Coracias spatulatus | |
| Rholydd llydanbig Affrica | Eurystomus glaucurus | |
| Rholydd llydanbig Asia | Eurystomus orientalis | |
| Rholydd porffor | Coracias naevius | |
| Rholydd torlas | Coracias cyanogaster |
Cyfeiriadau
- ↑ Clarke, Julia A.; D. T. Ksepka; N. A. Smith; M. A. Norell (2009). "Combined phylogenetic analysis of a new North American fossil species confirms widespread Eocene distribution for stem rollers (Aves, Coracii).". Zoological Journal of the Linnean Society 157: 586–611. doi:10.1111/j.1096-3642.2009.00550.x.










