Ruw
| Ruw | |
|---|---|
| Llun botanegol o'r planhigyn Ruw | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Plantae |
| Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
| Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
| Ddim wedi'i restru: | Rosidau |
| Urdd: | Sapindales |
| Teulu: | Rutaceae |
| Genws: | Ruta |
| Rhywogaeth: | P. graveolens |
| Enw deuenwol | |
| Ruta graveolens | |
Llysieuyn blodeuol yw ruw neu rhuw. Enwau eraill: Ruw'r gerddi, Gorddawn, Gorddon, Llysyr echryshaint, Rhutain, Torwenwyn. Mae'n perthyn i'r teulu Rutaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Ruta graveolens a'r enw Saesneg yw Rue. Daw'r enw Cymraeg o'r Hen Ffrangeg a'r Saesneg.[1]
Mae'n frodorol i ardal y Balcanau, ond mae bellach yn cael ei dyfu ledled y byd mewn gerddi. Defnyddir yn aml fel planhigyn addurniadol oherwydd ei ddail glasaidd, ac oherwydd ei oddefiad i amodau pridd poeth a sych. Mae hefyd yn cael ei drin fel llysieuyn rhinweddol ac weithiau mewn coginio fel Perlysieuyn, ac i raddau llai fel ymlid pryfed ac arogldarth.
Gweler hefyd
- Ruw'r geifr - planhigyn o deulu gwahanol
Rhagolwg o gyfeiriadau
- ↑ "Ruw". Geiriadur Prifysgol Cymru. Cyrchwyd 28 Medi 2022.