Samarra
Mosg Mawr Samarra | |
| Math | safle archaeolegol, dinas fawr |
|---|---|
| Poblogaeth | 140,400 |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Diyala Governorate |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 150.58 km², 15,058 ha, 31,414 ha |
| Uwch y môr | 80 metr |
| Cyfesurynnau | 34.1959°N 43.88568°E |
| Cod post | 34010 |
| Statws treftadaeth | Safle Treftadaeth y Byd |
| Manylion | |
- Erthygl am y ddinas yn Irac yw hon. Am y ddinas yn Rwsia gweler Samara. Gweler hefyd Samara (gwahaniaethu).
Dinas yn Irac yw Sāmarrā (Arabeg: سامَرّاء). Saif ar lan ddwyreiniol afon Tigris yn nhalaith Salah ad-Din, 125 km (78 milltir) i'r gogledd o ddinas Baghdad, yng nghanolbarth y wlad. Fe'i hystyrir yn ddinas sanctaidd gan Foslemiaid Shia. Yn 2003, roedd tua 348,700 o bobl yn nyw yno. Yn 2007, cyhoeddodd UNESCO Samarra yn Safle Treftadaeth y Byd.
Hanes
Mae Samarra yn hen iawn. Ceir olion o bobl y Dywilliant Samarraidd sy'n dyddio o'r Chalcolithig (tua 5500–4800 CC) yn y rhan yma o ardal Mesopotamia. Cyfeirir at ddinas Sur-marrati yn cael ei hailsefydku gan y brenin Sennacherib yn 690 CC.
Yn yr Oesoedd Canol Cynnar, Samarra oedd prifddinas Califfiaeth yr Abassiaid. Symudodd y Califf Al-Mu'tasim ei lys yno yn 836. Codwyd Mosg Mawr Samarra gan ei olynydd. Ganwyd y bardd Arabeg clasurol Abdullah ibn al-Mu'tazz yn Samarra yn 861.
Dolenni allanol
- (Saesneg) Samarra Archaeological Survey Archifwyd 2013-01-21 yn y Peiriant Wayback