Siwa
| Math | gwerddon, pant |
|---|---|
| Poblogaeth | 25,031 |
| Cylchfa amser | Egypt Standard Time |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Siwa |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 80 km² |
| Uwch y môr | −19 metr |
| Cyfesurynnau | 29.2053°N 25.5194°E |
| Statws treftadaeth | Tentative World Heritage Site |
| Manylion | |
Gwerddon yng ngogledd-orllewin Yr Aifft a phrif dref y werddon honno yw Siwa. Roedd yn enwog fel lleoliad Teml Jupiter Ammon, un o brif oraclau'r Henfyd. Mae'n agos i'r ffin â Libia ac yn ddaearyddol yn rhan o Diffeithwch Libia.
Mae pobl Siwa yn cynnal diwylliant unigryw sy'n wahanol i'r hyn a geir yng ngweddill yr Aifft. Ceir nifer o ffynhonnau naturiol yno ac mae'r tir yn hynod o ffrwythlon mewn cyferbyniaeth drawiadol â'r anialwch diffaith o'i chwmpas.

Llyfryddiaeth
- Robin Maugham, Journey to Siwa (Llundain, 1950). Clasur o lyfr taith gyda nifer o luniau da.