Sumbawa
| Math | ynys |
|---|---|
| Poblogaeth | 1,330,000 |
| Cylchfa amser | UTC+08:00 |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Ynysoedd Swnda Lleiaf |
| Sir | Gorllewin Nusa Tenggara |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 14,386 km² |
| Uwch y môr | 11 metr |
| Gerllaw | Cefnfor India |
| Cyfesurynnau | 8.7403°S 117.9953°E |
| Hyd | 280 cilometr |
Mae Sumbawa yn ynys weddol fawr yn Indonesia. Saif yng nghanol cadwyn yr Ynysoedd Swnda Lleiaf, gydag ynys Lombok i'r gorllewin, Flores i'r dwyrain a Sumba i'r de-ddwyrain. Mae'n rhan o dalaith Gorllewin Nusa Tenggara, a'r dinasoedd mwyaf yw Sumbawa Besar a Bima .
Er bod Sumbawa yn ynys weddol fawr, 15,448 km², mae'r poblogaeth (1,540,000 yn 2004 yn llai na phoblogaeth ynysoedd llai megis Lombok a Bali. Yn hanesyddol, siaredid dwy iaith ar yr ynys, Basa Samawa (Indoneseg: Bahasa Sumbawa), iaith debg i iaith y Sasak ar Lombok, yn y gorllewin a Nggahi Mbojo (Bahasa Bima) yn y dwyrain.
Y mynydd uchaf ar yr ynys yw Mynydd Tambora, 2,850 m o uchder. Llosgfynydd yw Tambora, ac yn 1815 bu ffrwydrad anferth, tua phedair gwaith mwy na ffrwydrad Krakatoa yn 1883. Lladdwyd hyd at 92,000 o bobl a gollyngwyd cymaint o ludw i'r awyr nes i 1816 gael ei disgrifio yn Ewrop fel "y flwyddyn heb haf".