Tafwyl
| Enghraifft o: | digwyddiad sy'n ailadrodd |
|---|---|
Gŵyl flynyddol Menter Caerdydd i ddathlu celfyddydau a diwylliant Cymraeg yw Tafwyl, sydd yn digwydd yn flynyddol yng Nghaerdydd, Cymru.
Cefndir
Sefydlwyd yr ŵyl yn 2006 yn dilyn cyfarfod agored gan Menter Caerdydd. Cynhaliwyd yr ŵyl gyntaf yng ngardd gefn hen dafarn y Mochyn Du ger Canolfan Chwaraeon Genedlaethol Cymru. Daeth oddetu 80 o bobl i'r cyfarfod a chost y Tafwyl gyntaf oedd £2,500.[1] Yn 2012 symudodd yr ŵyl o’r Mochyn Du i Gastell Caerdydd. Mae cynulleidfa Tafwyl wedi tyfu yn aruthrol dros y blynyddoedd o ychydig dros mil o bobl yn y Mochyn Du yn ei ddyddiau cynnar, i 38,000 o bobl yng Nghaeau Llandaf yn 2017. Yn 2018 cyllideb yr ŵyl oedd £150,000.[1]
Mae’n ddigwyddiad 9 diwrnod i gyd; gyda digwyddiadau amrywiol yn cael eu cynnal o amgylch Caerdydd am wythnos, gan orffen gyda’r prif ddigwyddiad dros y penwythnos olaf. Mae’r prif ddigwyddiad yn gymysgedd fywiog o gerddoriaeth, llenyddiaeth, drama, comedi, celf, chwaraeon, bwyd a diod yng Nghastell Caerdydd. Mae’n ddigwyddiad rhad ac am ddim sy’n agored i bawb – yn siaradwr Cymraeg neu beidio.
Manylion y gŵyliau

2018
Dychwelodd yr ŵyl i Gastell Caerdydd y flwyddyn hon, a daeth yn agos 40,000 o ymwelwyr.[2]
Sadwrn
| Prif Lwyfan | Y 'Sgubor | Yurt T |
|---|---|---|
| Adwaith Omaloma |
Danielle Lewis |
Wigwam |
Sul
| Prif Lwyfan | Y 'Sgubor | Yurt T |
|---|---|---|
|
Cowbois Rhos Botwnnog |
Glain Rhys |
Eady Crawford |
2017
Yn 2017 cynhaliwyd yr ŵyl yng nghaeau Llandaf a gwelwyd 38,000 o ymwelwyr .[3] Bryn Fôn a'r Band oedd i fod i orffen yr ŵyl ar y nos Sul ar y Brif Lwyfan on ni allent fynychu felly Candelas oedd yr prif fand.[4] Roedd "Reu! 25" yn ddathliad o gerddoriaeth electronig Cymru.[5]
Sadwrn
| Prif Lwyfan | Llwyfan Acwstig |
|---|---|
| Gwilym Bowen Rhys Cpt Smith |
Big Fish Little Fish Danielle Lewis |
Sul
| Prif Lwyfan | Llwyfan Acwstig |
|---|---|
| Cyw Y Gerddorfa Ukulele |
Cwpwrdd Nansi Iwan Huws |
2016
Castell Caerdydd oedd lleoliad yr ŵyl yn 2016 ac roedd 36,500 o ymwelwyr.[6]
Sadwrn
| Prif Lwyfan | Llwyfan Acwstig |
|---|---|
| Cadno Trwbz |
Holl Anifeiiad Y Goedwig Gai Toms |
Sul
| Prif Lwyfan | Llwyfan Acwstig |
|---|---|
| Cyw Y Gerddorfa Ukulele |
Sera Carreg Lafar |
2015
Daeth 34,000 o ymwelwyr i Tafwyl yn 2015.[7] Dyma'r flwyddyn gyntaf i prif ddigwyddiad yr ŵyl gael ei gynnal dros deuddydd.
| Prif Lwyfan | Llwyfan Acwstig |
|---|---|
| Cyw Kookamunga |
Plu: Holl Anifeiliaid Y Goedwig Aled Rheon |
2014
Castell Caerdydd oedd cartref Tafwyl 2014 a daeth 18,717 o bobl.[8]
Cyfeiriadau
- ↑ 1.0 1.1 "Beti a'i Phobl Siân Lewis". BBC Radio Cymru. 29 Ebrill 2018.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-08-30. Cyrchwyd 2018-07-11.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-03-18. Cyrchwyd 2018-04-23.
- ↑ https://twitter.com/Tafwyl/status/881517224867094532
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-08-14. Cyrchwyd 2018-04-23.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-07-12. Cyrchwyd 2018-04-23.
- ↑ Katherine Williams, Victoria Jones (26 March 2016) "Line-up for Cardiff's 2016 Tafwyl Festival has been revealed", Wales Online. Retrieved 2 April 2017.
- ↑ "copi archif" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2017-09-05. Cyrchwyd 2018-04-23.