Trochydd
| Trochyddion | |
|---|---|
| Trochydd gyddfgoch (Gavia stellata) a'i gyw | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Gaviiformes |
| Teulu: | Gaviidae Allen, 1897 |
| Genws: | Gavia Forster, 1788 |
| Rhywogaethau | |
|
G. adamsii | |
Adar dŵr mawr o deulu'r Gaviidae yw trochyddion. Fe'u ceir yn Hemisffer y Gogledd yng Ngogledd America ac Ewrasia. Fel rheol, maent yn nythu ar lynnoedd dŵr croyw ac yn gaeafu mewn dyfroedd arfordirol. Maent yn nofwyr a deifwyr ardderchog ond ni allant gerdded yn dda. Maent yn bwydo ar bysgod yn bennaf.
Rhywogaethau
- Trochydd gyddfgoch (Gavia stellata)
- Trochydd gyddfddu (Gavia arctica)
- Trochydd mawr (Gavia immer)
- Trochydd pigwyn (Gavia adamsii)
- Trochydd y Môr Tawel (Gavia pacifica)
Cyfeiriadau
- Perrins, Christopher, gol. (2004) The New Encyclopedia of Birds, Oxford University Press, Rhydychen.