Universiade
| Enghraifft o: | digwyddiad rheolaidd ym myd chwaraeon |
|---|---|
| Math | digwyddiad aml-chwaraeon, cystadleuaeth rhyngwladol |
| Dechrau/Sefydlu | 1959 |
| Yn cynnwys | Summer Universiade, Winter Universiade |
| Enw brodorol | Universiade |
| Gwefan | https://www.fisu.net/sport-events |

Cystadleuaeth aml-chwaraeon ryngwladol yw'r Universiade a drefnir gan y Ffederasiwn Chwaraeon Prifysgol Rhyngwladol (FISU) ar gyfer mabolgampwyr sy'n fyfyrwyr prifysgol. Cynhelir gemau'r haf a'r gaeaf pob dwy flynedd, mewn dinasoedd ar wahân. Mae'r Universiade hefyd yn ŵyl ddiwylliannol i geisio dathlu "ysbryd cyfeillgar a sbortsmonaeth".[1]
Cynhaliwyd cystadlaethau rhyngwladol ar gyfer myfyrwyr ers dechrau'r 20g. Erbyn y 1950au roedd Undeb Rhyngwladol y Myfyrwyr (ISU) a FISU yn trefnu pencampwriaethau ar wahân: Gemau Prifysgol y Byd gan ISU, a'r Wythnosau Chwaraeon Prifysgol Rhyngwladol gan FISU. Cytunodd y ddau sefydliad i gefnogi mabolgampau yn Torino, yr Eidal, ym 1959. Rhoddwyd yr enw Universiade ar y gemau hyn, cyfuniad o'r geiriau Eidaleg università ac olimpiade.[2]
Gemau'r Haf
| Gemau Universiade yr Haf | |||
|---|---|---|---|
| Gwledydd sydd wedi cynnal y gemau: Unwaith Dwywaith Tair gwaith Pedair gwaith | |||
| Blwyddyn | Rhif | Lleoliad | |
| 1959 | I | Torino | |
| 1961 | II | Sofia | |
| 1963 | III | Porto Alegre | |
| 1965 | IV | Bwdapest | |
| 1967 | V | Tokyo | |
| 1970 | VI | Torino | |
| 1973 | VII | Moscfa | |
| 1975 | VIII | Rhufain | |
| 1977 | IX | Sofia | |
| 1979 | X | Dinas Mecsico | |
| 1981 | XI | Bwcarést | |
| 1983 | XII | Edmonton | |
| 1985 | XIII | Kobe | |
| 1987 | XIV | Zagreb | |
| 1989 | XV | Duisburg | |
| 1991 | XVI | Sheffield | |
| 1993 | XVII | Buffalo | |
| 1995 | XVIII | Fukuoka | |
| 1997 | XIX | Sisili | |
| 1999 | XX | Palma de Mallorca | |
| 2001 | XXI | Beijing | |
| 2003 | XXII | Taegu | |
| 2005 | XXIII | İzmir | |
| 2007 | XXIV | Bangkok | |
| 2009 | XXV | Beograd | |
| 2011 | XXVI | Shenzhen | |
| 2013 | XXVII | Kazan | |
| 2015 | XXVIII | Gwangju | |
| 2017 | XXIX | Taipei | |
| 2019 | XXX | Napoli | |
| 2021 | XXXI | Bwcarést | |
Cynhelir gemau Universiade yr haf dros 12 niwrnod. Mae 11 o chwaraeon gorfodol (14 o ddisgyblaethau), a hyd at 3 o chwaraeon a ddewisir gan y wlad sy'n cynnal y gemau. Y 14 mabolgamp orfodol yw athletau, cleddyfa, gymnasteg gelfydd, gymnasteg rythmig, jiwdo, nofio, pêl-droed, pêl-fasged, pêl-foli, plymio, polo dŵr, taekwondo, tenis, a thenis bwrdd. Mae disgwyl ychwanegu saethyddiaeth at restr y chwaraeon gorfodol yn 2019, a badminton yn 2021.[1]
Gemau'r Gaeaf
| Gemau Universiade y Gaeaf | |||
|---|---|---|---|
| Gwledydd sydd wedi cynnal y gemau: Unwaith Dwywaith Tair gwaith Pedair gwaith Pum gwaith Chwe gwaith | |||
| Blwyddyn | Rhif | Lleoliad | |
| 1960 | I | Chamonix | |
| 1962 | II | Villars-sur-Ollon | |
| 1964 | III | Špindlerův Mlýn | |
| 1966 | IV | Sestriere | |
| 1968 | V | Innsbruck | |
| 1970 | VI | Rovaniemi | |
| 1972 | VII | Lake Placid | |
| 1975 | VIII | Livigno | |
| 1978 | IX | Špindlerův Mlýn | |
| 1981 | X | Jaca | |
| 1983 | XI | Sofia | |
| 1985 | XII | Belluno | |
| 1987 | XIII | Štrbské Pleso | |
| 1989 | XIV | Sofia | |
| 1991 | XV | Sapporo | |
| 1993 | XVI | Zakopane | |
| 1995 | XVII | Jaca | |
| 1997 | XVIII | Muju | |
| 1999 | XIX | Poprad-Tatry | |
| 2001 | XX | Zakopane | |
| 2003 | XXI | Tarvisio | |
| 2005 | XXII | Innsbruck | |
| 2007 | XXIII | Torino | |
| 2009 | XXIV | Harbin | |
| 2011 | XXV | Erzurum | |
| 2013 | XXVI | Trentino | |
| 2015 | XXVII | Granada | |
| Štrbské Pleso/Osrblie | |||
| 2017 | XXVIII | Almaty | |
| 2019 | XXIX | Krasnoyarsk | |
| 2021 | XXX | Lucerne | |
Para gemau Universiade y gaeaf am 11 niwrnod. Mae 6 o chwaraeon gorfodol (8 o ddisgyblaethau) gan raglen gemau'r gaeaf, a hyd at 3 o chwaraeon dewisiol. Yr 8 mabolgamp orfodol yw'r biathlon, cwrlo, eirafyrddio, hoci iâ, sgio Alpinaidd, sgio traws gwlad, sglefrio ffigyrau a sglefrio ar y cyd, a sglefrio cyflym trac byr.[3]
Cyfeiriadau
- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Summer Universiade Archifwyd 2017-01-19 yn y Peiriant Wayback, FISU. Adalwyd ar 9 Rhagfyr 2016.
- ↑ (Saesneg) FISU History Archifwyd 2017-01-19 yn y Peiriant Wayback, FISU. Adalwyd ar 9 Rhagfyr 2016.
- ↑ (Saesneg) Winter Universiade Archifwyd 2015-02-04 yn y Peiriant Wayback, FISU. Adalwyd ar 9 Rhagfyr 2016.
Dolenni allanol
- (Saesneg) (Ffrangeg) Gwefan swyddogol FISU


