Zugspitze
| Math | mynydd |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Garmisch-Partenkirchen |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 2,962.06 metr |
| Cyfesurynnau | 47.421217°N 10.986314°E |
| Manylion | |
| Amlygrwydd | 1,746 metr |
| Rhiant gopa | Finsteraarhorn |
| Cadwyn fynydd | Wetterstein |
| Deunydd | craig waddodol |
Y Zugspitze yw mynydd uchaf yr Almaen. Mae'n 2962 medr o uchder. Saif yn y Wettersteingebergte, ar y ffin rhwng yr Almaen ac Awstria. Mae'r rhan Almaenig o'r mynydd yn ne Bafaria.
Y trefi agosaf yw Grainau, Garmisch-Partenkirchen, ar ochr yr Almaen ac Ehrwald ar ochr Awstria. Mae rheilffordd yn arwain i'r copa o Garmisch-Partenkirchen, ac mae ceir cabl i'r copa yn cychwyn o'r ochr Awstraidd a'r ochr Almaenig. Ceir bwyty ac amgueddfa fechan ar y copa. Ar lethrau'r mynydd, mae tair allan o'r pum rhewlif yn yr Almaen.