Douai
| Math | cymuned |
|---|---|
| Poblogaeth | 39,833 |
| Pennaeth llywodraeth | Frédéric Chéreau |
| Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
| Gefeilldref/i | |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | arrondissement of Douai |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 16.88 km² |
| Uwch y môr | 38 metr, 16 metr |
| Yn ffinio gyda | Roost-Warendin, Sin-le-Noble, Waziers, Anhiers, Cuincy, Flers-en-Escrebieux, Lallaing, Lambres-lez-Douai, Lauwin-Planque, Râches |
| Cyfesurynnau | 50.3708°N 3.0792°E |
| Cod post | 59500 |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Douai |
| Pennaeth y Llywodraeth | Frédéric Chéreau |

Tref a chymuned yng ngogledd Ffrainc yw Douai (Iseldireg: Dowaai). Saif yn département Nord, ar lannau afon Scarpe, tua 25 milltir (40 km) o Lille a 16 milltir (25 km) o Arras, Roedd poblogaeth yr ardal drefol (aire urbaine), yn cynnwys Lens, yn 552,682 yn 1999.
Mae'r clochdy, a adeiladwyd gyntaf yn 1380, yn enwog. Pan oedd Douai yn rhan o'r Iseldiroedd Sbaenig, sefydlwyd Prifysgol Douai, a ddaeth yn bwysig ar gyfer addysgu Catholigion o Gymru a Lloegr yn y Coleg Seisnig; roedd hefyd Goleg Albanaidd a Choleg Gwyddelig. Sefydlwyd priordy Benedictaidd Sant Gregori Fawr gan Sant John Roberts yn 1605.
Ymysg y Catholigion Cymreig a addysgwyd yn Douai, roedd Rhosier Smyth, Robert Gwyn a Philip Powell.