Samarcand
| Math | dinas fawr, dinas |
|---|---|
| Poblogaeth | 546,303 |
| Cylchfa amser | UTC+05:00 |
| Gefeilldref/i | |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Wsbeceg |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Samarqand Region |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 108 ±1 km² |
| Uwch y môr | 702 metr |
| Cyfesurynnau | 39.6547°N 66.9758°E |
| Cod post | 140100 |
Dinas yn Wsbecistan yw Samarcand, weithiau Samarkand (Wsbeceg: Samarqand neu Самарқанд). Roedd y boblogaeth yn 2004 yn 419.600.
Mae Samarcand yn un o ddinasoedd hynaf y byd, wedi ei sefydlu yn y 14g CC. Datblygodd fel un o'r sefydliadau ar hyd Llwybr y Sidan, rhwng Tsieina a'r Dwyrain Canol. Marakanda oedd ei henw pan gipiwyd y ddinas gan Alecsander Fawr yn 329 CC.
Roedd yr ardal, Sogdia, yn Gristnogol i raddau helaeth hyd nes i'r Arabiaid ddod ag De Islamyma. Cipiwyd y ddinas gan Ibn Qutaiba yn 712, ond bu nifer o wrthryfeloedd, a dim ond wedi i fyddin Ymerodraeth Tsieina gael ei gorchfygu ger afon Talas yn 753 y daeth i feddiant y Mwslimiaid yn barhaol.
Yn 1370, gwnaeth Timur Samarcand yn brifddinas yr ymerodraeth yr oedd wedi ei chreu, a daeth a phenseiri o bob rhan o'r ymerodraeth i weithio yma. Dyddia llawer o adeiladau hanesyddol Samarcand o gyfnod Timur. Mae Timur ei hun wedi ei gladdu yma. Cyhoeddwyd y ddinas yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.
Pobl enwog o Samarcand
- Islam Karimov, Arlywydd - unben Wsbecistan